Bu farw gŵr 72 oed yn y môr ym Morfa Nefyn brynhawn ddoe (dydd Mercher, Medi 15).
Cafwyd hyd iddo’n anymwybodol yn y môr oddi ar y traeth pan gafodd tîm Gwylwyr y Glannau eu galw am 5.21yp.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru a’r Ambiwlans Awyr hefyd wedi ymateb i’r digwyddiad, gyda swyddogion meddygol yn cadarnhau’n ddiweddarach bod y dyn wedi marw.
“Gwnaethom dderbyn galwad am 5.21pm ddoe (Dydd Mercher) gan gydweithwyr o Wylwyr y Glannau EM yn gofyn am gymorth wedi i ddyn 72 oed gael ei leoli’n ddiymateb yn y dŵr ym Morfa Nefyn,” meddai’r heddlu mewn datganiad.
“Ymatebodd yr Ambiwlans Awyr hefyd, a gadarnhaodd fod y dyn, yn anffodus, wedi marw.
“Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae swyddfa’r crwner lleol wedi cael gwybod.”
Does dim rhagor o fanylion am y dyn hyd yn hyn.