Mae Stephen Crabb, cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Aelod Seneddol Ceidwadol Preseli Penfro, yn dweud bod perygl i’r llywodraeth ailadrodd y camgymeriad a wnaeth yn 2015 wrth rewi budd-daliadau oedran gweithio.

Dywedodd George Osborne, y Canghellor ar y pryd, y byddai gweithwyr ar gyflogau isel yn well eu byd er gwaetha’r rhewi pedair blynedd, diolch i newidiadau treth a chynnydd yn yr isafswm cyflog.

Ond dywed Stephen Crabb – oedd yn Ysgrifennydd Cymru ar y pryd – ei fod wedi bod yn “doriad mewn termau real” mewn budd-daliadau, oedd wedi bod yn “ffactor sy’n cyfrannu at y cynnydd mewn tlodi mewn gwaith”.

Fis nesaf, bydd Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri’r taliad o £20 ychwanegol i gredyd cynhwysol.

Mae’r llywodraeth yn dweud bod yr £20 ychwanegol yn fesur dros dro i helpu pobol drwy’r pandemig.

Mae’r Blaid Lafur hefyd yn galw ar y llywodraeth i newid eu meddwl.

Mwy o dlodi?

Yn ôl Stephen Crabb, fe all y toriad o £20 yr wythnos y mis nesaf arwain at fwy o dlodi.

Mae Boris Johnson yn mynnu ei fod am “annog cyflogau uchel a sgiliau uchel”, a bod y llywodraeth yn canolbwyntio ar gefnogi pobol i ddychwelyd i’r gwaith gyda chyflog gwell.

“Roeddwn i’n rhan o’r tîm wnaeth y penderfyniad yna i rewi budd-daliadau – a doedd cyflogau ddim yn codi yn y ffordd roedden ni’n credu y bydden nhw,” meddai Stephen Crabb.

“Dylem geisio dysgu gwersi o hynny yn hytrach na’i ailadrodd yn unig.”

Mae Stephen Crabb ymysg nifer o aelodau Ceidwadol sy’n galw ar y prif weinidog i fod ar ochr gweithwyr archfarchnadoedd, glanhawyr a gofalwyr.