Mae’r BBC yn “mynd â chywirdeb gwleidyddol yn rhy bell” drwy dynnu hen raglenni o’u llwyfannau ar alw a ffrydio rhag ofn bod gwylwyr yn yr oes sydd ohoni yn eu cael yn sarhau, meddai un o weinidog San Steffan.
Dywed John Whittingdale, sydd â chyfrifoldeb am y cyfryngau, er bod rhai rhaglenni o’r 60au yn “gwbl annerbyniol”, fod tynnu rhaglenni fel Fawlty Towers yn “mynd â chywirdeb gwleidyddol yn rhy bell”.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r Ceidwadwr Tom Hunt gyhuddo’r BBC o wneud “penderfyniad sensoraidd” wrth symud penodau o’r comedi Little Britain o’i weinyddion.
Mae Little Britain, oedd yn serennu Matt Lucas a David Walliams, wedi cael ei beirniadu ers tro am ei phortread o gymeriadau croenddu ac Asiaidd gan y comedïwyr gwyn, yn ogystal â chymeriadau hoyw a rhai ag anableddau.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC ei fod wedi gwneud y penderfyniad i dynnu’r sioe gan fod “yr oes wedi newid” ers i’r gyfres gomedi gael ei darlledu am y tro cyntaf yn 2003.
Cefnogwyr yn ddig
“Fis diwethaf, aeth uwch swyddogion gweithredol y BBC ati i ddileu penodau o Little Britain a chomedïau eraill o’i blatfform iPlayer oherwydd pryderon y gallai rhai cymeriadau gael eu hystyried yn dramgwyddus erbyn hyn,” meddai Tom Hunt wrth ofyn cwestiwn brys yn San Steffan ar fater y BBC.
“A yw (Mr Whittingdale) yn deall dicter cefnogwyr y rhaglenni hyn wrth i swyddogion gweithredol yn eu darlledwr gwladol, y rhai y mae’n nhw’n talu eu cyflogau, wneud y penderfyniad sensoraidd hwn ac yn y bôn wedi gwneud dyfarniad amdanyn nhw am barhau i fwynhau’r rhaglenni hynny?”
Atebodd John Whittingdale mai mater i’r BBC yw hyn, “ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn rhannu syndod (Tom Hunt) eu bod wedi penderfynu bod Little Britain mor annerbyniol.
“Os edrychwn yn ôl, mae’n wir y byddai rhai rhaglenni a oedd yn boblogaidd dros ben, er enghraifft, yn y 60au, yn awr yn cael eu hystyried yn gwbl annerbyniol, ac mae hynny, yn amlwg, yn rhywbeth nid yn unig i’r BBC, ond mae angen i bob un ohonom barhau i fod yn sensitif.
“Ond rwy’n credu bod perygl bod rhai rhaglenni sy’n dal i gael eu mwynhau’n eang – ac awgrymwyd i mi hyd yn oed ar un adeg y gallai Fawlty Towers gael ei thynnu gan ei bod yn tramgwyddo rhai pobol – mae hyn yn mynd â chywirdeb gwleidyddol yn rhy bell.”
Mae UKTV, sy’n eiddo i’r BBC, wedi tynnu un bennod o Fawlty Towers dros dro fis diwethaf oherwydd “sarhad hiliol” a “iaith hen ffasiwn” wrth drafod pobol groenddu.