Byddai disgwyl i ddarlledwyr cyhoeddus, fel S4C a BBC Cymru Wales, gynhyrchu rhaglenni Prydeinig eu naws yn andwyo democratiaeth yng Nghymru, meddai aelod o Fwrdd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.
Yn ôl y newyddiadurwraig a’r ddarlledwraig Bethan Jones Parry, byddai sicrhau bod rhaglenni sy’n “nodweddiadol Brydeinig” yn cael eu creu yn niweidiol i’r cyfryngau yng Nghymru sy’n trio cyflenwi rhaglenni sydd wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Ers hynny, mae John Whittingdale wedi colli ei rôl fel Gweinidog y Cyfryngau yng nghabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn sgil ad-drefnu gan Boris Johnson.
“Ofn a dychryn”
Ymateb Bethan Jones Parry, sydd newydd gael ei hailethol i Fwrdd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol am yr ail dymor, i’r cynlluniau oedd “ofn a dychryn”, ac os fu amser erioed i ddatganoli darlledu, yna nawr yw’r amser hwnnw.
“Fy ymateb i oedd ofn a dychryn, a hefyd pryder a theimlo’n flin ofnadwy bod Llywodraeth San Steffan hyd yn oed yn meddwl am y math hyn o gynlluniau,” meddai Bethan Jones Parry wrth golwg360.
“Erbyn hyn, rydyn ni’n gwybod bod Whittingdale ac Oliver Dowden wedi mynd, felly dydyn ni ddim yn siŵr os mai ryw syniadau sydd ddim yn ffitio mewn i’r Cabinet newydd ydi o, a’r gyfundrefn newydd mae Boris Johnson yn trio’i rhoi yn ei lle, neu ryw syniadau sy’n mynd i barhau ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni mewn ychydig bach o dir neb yn dilyn y sack i Whittingdale, does yna ddim dwywaith am hynna, ond mae o’n dal i godi ofn a dychryn arna i ac yn fy ngwneud i, a sawl un arall ar y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, yn flin bod hyn yn cael ei ystyried.”
Stamp ‘Prydeindod’
Rhestrodd John Whittingdale ffilmiau Carry On a rhaglenni comedi fel Only Fool On Horses, Gogglebox, Fleabag a Blackadder Goes Forth fel enghreifftiau o raglenni Prydeinig.
“Mae’r stamp yma o Britishness, does gen i ddim syniad be mae o’n feddwl i fod yn onest. A dw i ddim yn siŵr iawn os ydi hyd yn oed y rhai sy’n ei arddel o’n dallt be mae o’n feddwl,” meddai Bethan Jones Parry.
“Ar ei orau, efallai y bysa fo’n cwmpasu diwylliannau gwledydd y Deyrnas Gyfunol, ond yn ymarferol dydi o ddim yn debygol o fod yn gwneud hynny o gwbl.
“Â dweud y gwir, mae rhywun yn amau yn gryf mai’r unig beth wneith o ydi diffinio Prydeindod mewn termau Saesneg – sef be yda ni’n ei weld yn digwydd yn y cyfryngau, a hyd yn oed mewn archfarchnadoedd a sawl maes arall lle mae’r stamp yma’n dod, ac mae o’n golygu Lloegr.
“Mae o’n mynd i andwyo, dw i’n meddwl, y diwydiant a’r cyfryngau yng Nghymru, a’r Alban a Gogledd Iwerddon sy’n trio cyflenwi rhaglenni sydd wedi’u hanelu at eu cynulleidfaoedd penodol o fewn y gwledydd yna.”
Dim lles i ddemocratiaeth
Fyddai’r cynlluniau hyn yn gwneud dim lles i ddemocratiaeth yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon chwaith, meddai Bethan Jones Parry.
“Dydw i ddim yn meddwl bod o’n mynd i fod at ddant y gwylwyr a’r gwrandawyr beth bynnag, oherwydd mae yna bryder gwirioneddol yng Nghymru, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn ardaloedd yng ngogledd Lloegr, ac yng Nghernyw am y diffyg democratiaeth sydd yna – lle mae pryderon lleol yn cael sylw teg, mae o fatha tasa fo’n dod yn ail i Brydeindod o hyd, ac mae Prydeindod yn golygu buddiannau Lloegr.”
Mae hynny wedi dod i’r amlwg yn ystod y pandemig, ychwanegodd.
“Mae pobol yng Nghymru, heb os wedi elwa, ac yn llawer mwy bodlon, eu bod nhw wedi cael arweiniad o fewn Cymru am y pandemig.
“Ond doeddech chi’m yn ei gael o ar y cyfryngau o gwbl, roedd o i gyd am beth oedd yn digwydd yn Lloegr.
“Mae’n swnio fel tasa ni â’n cyllell yn Lloegr, dydi hynny ddim yn wir. Ond mae rhywun yn gorfod bod yn ymwybodol bod grym y cyfryngau yn Lloegr yn llawer mwy na be ydi o mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.
“A dyna pam rydyn ni fel Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn awyddus tu hwnt i weld datganoli darlledu, fel bod darlledu’n gallu bod yn rhan o’n bywyd democrataidd ni yma yng Nghymru, gweld radio wirioneddol leol, gweld pobol Cymru’n cael eu gwasanaethu efo cyfryngau sy’n addas ar gyfer eu hanghenion a’u diddordebau nhw.”
“Cyfnod peryglus”
Wrth ystyried a yw’r trafodaethau diweddar rhwng Plaid Cymru, sy’n cefnogi datganoli darlledu, a Llywodraeth Cymru yn newyddion da i’r ymgyrch ddatganoli, dywedodd Bethan Jones Parry ei bod hi’n haws dweud na gwneud.
“Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd da efo sawl aelod o’r ddwy blaid, ond dw i’n meddwl mai’r ateb onest ydi bod y dweud yn haws na’r gwneud,” meddai.
“Dw i’n meddwl, bod araith Whittingdale ddoe yn brawf pendant bod amser y gwneud wedi’n cyrraedd ni.
“Mae’n rhaid i ni weld datganoli’n cael ei ddarlledu, mae’n rhaid i ni weld llawer mwy o ymwneud â’r gynulleidfa yng Nghymru er mwyn iddyn nhw gael gweld bod yna fantais o gael gweld, deall, clywed, mwynhau eu straeon eu hunain.
“Dw i’n meddwl y bydd be mae Whittingdale wedi’i ddweud, er ei fod o wedi mynd bellach, yn codi ofn ar wleidyddion Plaid Cymru a’r Blaid Lafur… yr unig rinwedd fedra i weld yn yr araith yw ei bod hi wedi codi ofn, dychryn, braw a chodi gwrychyn gymaint o bobol a gwneud i bobol sylweddoli bod hi’n amser gwneud nid dweud, ac nid trafod.”
Eglurodd bod y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn gasgliad o bobol “sydd isio bod yn rhan o ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a phobol sydd yn gwybod mai dim ond datganoli, a dod â’r grym yn ôl i Gymru, sy’n mynd i sicrhau tegwch i bobol Cymru ac yn benodol i’r broses ddemocrataidd yng Nghymru”.
“Dydych chi ddim isio gweld popeth drwy brism San Steffan, ac os fuodd yna gyfnod erioed pan mae hynna’n wir, hwn ydi o,” meddai.
“Mae o’n gyfnod peryg, ac mi roedd araith John Whittingdale ddoe yn brawf o hynny.”