Mae adroddiad newydd gan NFU Cymru am dir fferm yn manylu ar strategaeth er mwyn plannu coetiroedd yn gynaliadwy.
Yn y ddogfen, Tyfu Gyda’n Gilydd, mae’r undeb amaeth yn adnabod y rhwystrau a’r cyfleoedd i gyrraedd targedau uchelgeisiol i gynyddu coetiroedd Cymru er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae ymgyrch #TyfuGydanGilydd am weld mwy o goed yn cael eu hintegreiddio mewn i systemau amaethyddol Cymru.
Wrth lansio’r adroddiad, Tyfu Gyda’n Gilydd: Strategaeth dros gynyddu’r gorchudd coed yng Nghymru yn gynaliadwy, gyda Llywydd NFU Cymru John Davies, bu’r Gweinidog Dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, yn plannu coeden dderw ar fferm John Davies ger Aberhonddu.
Dros y misoedd nesaf bydd NFU Cymru yn gwahodd gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi i ymweld â fferm leol a phlannu coeden.
Bydd yr ymweliadau hyn hefyd yn arddangos yr effaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd sy’n digwydd ar ffermydd, law yn llaw â chynhyrchu bwyd.
Argymhellion
Mae’r ddogfen yn cynnwys cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru gan gynnwys ffurfio fframwaith i lywio penderfyniadau ar blannu fel bod modd asesu’r effaith economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol hirdymor yn iawn.
Ymhlith yr argymhellion, mae NFU Cymru yn dweud bod angen cefnogaeth i ddatblygu mwy ar y cyflenwad o goed ifanc o Gymru, a diwygio tenantiaethau er mwyn i denantiaid dderbyn budd o blannu coed ar raddfa addas.
Maen nhw hefyd yn argymell y dylid sicrhau bod cynlluniau plannu coed yn derbyn yr adnoddau cywir yn y dyfodol, ei bod hi’n hawdd gwneud cais am adnoddau, a’u bod nhw’n gwobrwyo ffermwyr am gael gorchudd coed a gwrychoedd.
“Ceidwaid tirwedd”
“Heb os nag oni bai, newid yn yr hinsawdd yw’r her amgylcheddol fwyaf mae’r byd yn ei wynebu, ac mae cynyddu ein gorchudd coed yn cael ei hyrwyddo yn eang fel un dull o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd,” meddai John Davies, Llywydd NFU Cymru.
“Fel ceidwaid tirwedd Cymru, gyda’n ffermydd yn gartref i chwarter o’r coed yng Nghymru – heb sôn am y carbon a ddelir yn ein gwrychoedd, glaswelltiroedd, priddoedd a mawndiroedd – mae ein diwydiant yn barod yn arwain ar ymneilltuo carbon ac yn rhan annatod o’r ateb i newid yn yr hinsawdd.
“Fel ffermwyr rydym yn gwrthwynebu plannu coed ar ein tiroedd gorau ac mae colled ffermydd cyfan i goedwigaeth llethol yn codi teimladau cryfion. Ond, gyda’r anogaeth gywir mae llawer o ffermwyr yn frwd iawn dros gynyddu’r gorchudd coed ar raddfa briodol ar diroedd sydd, yn eu tyb hwythau, yn llai cynhyrchiol ar eu ffermydd.
“Gan gofio hyn, rydym yn bendant y dylai cynlluniau’r dyfodol wobrwyo ffermwyr i blannu gwrychoedd, lleiniau lloches, rhigolau a chorneli caeau; ganiatáu ffermwyr i greu coetiroedd ar raddfa caeau ac ar diroedd iddynt adnabod o fod yn werth amaethyddol a chynefin isel, a darparu adenillion ariannol i ffermwyr am reoli gwrychoedd a choetiroedd sydd eisoes yn bodoli.”
Sero net
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, Hedd Pugh, bod ffermwyr Cymru’n gweithio tuag at nod y diwydiant o gyflawni’r targed sero net i fyd amaeth erbyn 2040.
“Er mwyn gwneud hyn bydd angen canolbwyntio ar effeithlonedd cynhyrchiol ffermio a chyfoethogi ein defnydd tir er mwyn cipio mwy o garbon,” meddai Hedd Pugh.
“Mae ein strategaeth Tyfu Gyda’n Gilydd yn dangos yn glir bod yna le allweddol yn y frwydr hon ar gyfer plannu coed wedi ei dargedi ac mewn modd sydd yn cydweithio ag amaeth cynhyrchiol.
“Mae NFU Cymru yn gobeithio y bydd Aelodau’r Senedd yn frwd i archebu ymweliad i ffermydd ein haelodau dros yr wythnosau nesaf, i arwyddo ein haddewid #TyfuGydanGilydd ac i gefnogi ein gweledigaeth.
“Mae’r undeb yn cefnogi mesurau sydd yn galluogi ac yn gwobrwyo ffermwyr am goetiroedd sydd yn bodoli eisoes ac am blannu rhai ychwanegol ac am storfeydd carbon ehangach ar ein ffermydd. Rydym hefyd angen gweld datblygiad mecanwaith i ddiogelu ein cymunedau gwledig a’n gallu cynhyrchu ar gyfer y dyfodol.”
“Angen newid sylweddol”
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac ystyried manylion y strategaeth.
“Fel llywodraeth rydym yn llwyr ymroddedig i fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd rydym yn ei wynebu heddiw fel gallwn ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths AoS.
“Mae’n eglur bod angen newid sylweddol i gynyddu cread coetiroedd ac mae gan ffermwyr rôl allweddol i chwarae yn yr ymdrechion yma.
“Rydym eisiau gwneud hyn drwy weithio gyda’r diwydiant mewn ffordd sy’n diogelu hyfywedd ein busnesau amaethyddol. Bydd plannu coed hefyd yn cynnig cyfleon i greu ffynonellau newydd o incwm a swyddi gwyrdd yn ein cymunedau gwledig.”