Mae disgwyl i Mark Drakeford gadarnhau heddiw (Dydd Gwener, 17 Medi) a fydd angen pasbort brechu i gael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr.

Fel rhan o’r adolygiad tair wythnos diweddaraf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried y penderfyniad.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog bod ystyriaethau ymarferol a moesegol ynghlwm â’r penderfyniad.

Does dim disgwyl y bydd unrhyw newidiadau eraill i reolau Covid-19 Cymru heddiw.

Mae Mark Drakeford wedi pwysleisio mai dim ond ar gyfer llefydd mae rhywun yn mynd o’u gwirfodd y byddai’n ystyried cyflwyno pasbortau brechu, ac na fydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n anghyfrifol i weinidogion beidio ystyried cyflwyno pasbortau brechu, ac y gallai gael ei berswadio i gyflwyno cynllun o’r fath pe bai’r buddiannau iechyd cyhoeddus yn fwy na’r anfanteision.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw am beidio â chyflwyno pasbortau, a Phlaid Cymru’n credu y dylid eu gwahardd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus,  “ond os yw’r dystiolaeth yn dangos eu bod yn gallu cyfyngu ar ymlediad [y feirws] mewn rhai lleoliadau y mae pobl yn dewis eu mynychu yna mae’n gwneud synnwyr i’w hystyried”.

Syniad “wrth gefn”

Mae’r Alban am wneud hi’n orfodol i bobol ddangos pasbort brechu er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr o 1 Hydref, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael gwared ar eu cynlluniau i gyflwyno trefn debyg.

Er hynny, mae Boris Johnson wedi dweud y bydden nhw’n cadw pasbortau brechu fel syniad “wrth gefn”.

“Beth rydyn ni eisiau ei wneud yw osgoi pasbortau brechu, os gallwn ni, a dyna’r trywydd rydyn ni arno,” meddai Boris Johnson wrth newyddiadurwyr.

“Ond dw i’n meddwl bod rhaid i chi fod yn gall a chadw pethau wrth gefn rhag ofn.”

Ddydd Sul (12 Medi), dywedodd Ysgrifennydd Iechyd y Deyrnas Unedig, Sajid Javid, eu bod nhw am roi’r cyllun o’r neilltu, ychydig ddyddiau wedi i’r gweinidog brechlynnau, Nadhim Zahawi, amddiffyn y polisi o flaen Aelodau Seneddol beirniadol.

Derbyniodd Nadhim Zahawi feirniadaeth wrth amddiffyn y polisi yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf, gan ddadlau bod rhaid cyflwyno pasbortau brechu er mwyn osgoi amharu ar glybiau nos ac osgoi gorfod eu cau.

Ddydd Llun, dywedodd Boris Johnson bod y ddau weinidog “yn iawn”.

Mae Senedd yr Alban wedi cymeradwyo cyflwyno pasbortau brechu.