Mae Mark Drakeford wedi annog pobol i ystyried yn ofalus cyn ymweld â phobol mewn ysbytai, yn sgil cynnydd mewn cyfraddau Covid-19.
Ar hyn o bryd, mae tua 520 achos Covid-19 i bob 100,000 person yng Nghymru, a dydi’r cyfraddau heb fod mor uchel â hynny ers mis Rhagfyr y llynedd.
Bydd canlyniadau’r adolygiad tair wythnos nesaf yn cael eu cyhoeddi’r wythnos nesaf, ond mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (10 Medi) rhoddodd Mark Drakeford ddiweddariad ar sefyllfa iechyd y cyhoedd.
Erbyn hyn, mae 90% o oedolion Cymru wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, ond fe wnaeth y Prif Weinidog annog y miloedd sydd heb gael eu brechu, ond sy’n gymwys, i dderbyn y cynnig.
Y sefyllfa am waethygu
Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe yn dangos fod y sefyllfa am waethygu yn ystod yr wythnosau nesaf, ond dydi cyflwyno mesurau pellach, megis mynd yn ôl i gyfnod clo fel gwelwyd ddechrau’r flwyddyn, “ddim yn anochel”, yn ôl y Prif Weinidog.
Os bydd yr achosion yn parhau i gynyddu ar y raddfa bresennol, bydd 3,200 o achosion newydd y dydd erbyn diwedd y mis.
“Tan nawr mae wedi bod yn bosib rheoli’r cynnydd o ganlyniad i’n rhaglen frechu gwbl wych ac mae hynny wedi helpu i leihau salwch difrifol,” meddai Mark Drakeford.
“Ond wrth i’r haint ledaenu yn ein cymunedau, mae yna bwysau unwaith eto ar y Gwasanaeth Iechyd yn sgil y pandemig.
“Ar hyn o bryd mae oddeutu 40 sydd â Covid yn mynd i’r ysbyty bob dydd – mae 420 o achosion sydd wedi’u cadarnhau mewn ysbytai ar draws Cymru – y nifer uchaf ers mis Mawrth.
“Mae’r model yn awgrymu y gallai’r nifer sydd angen triniaeth ysbyty godi i 100 y diwrnod – mae’r niferoedd yma yn cynnwys y rhai sydd angen triniaeth ysbyty am gyfnod hir a’r rhai sydd angen triniaeth gofal dwys.”
Yn ôl Mark Drakeford, dydi nifer y bobol sy’n derbyn gofal mewn ysbytai yn sgil Covid-19 ar hyn o bryd heb gael eu brechu – ac mae nifer ohonyn nhw yn 30 oed neu iau.
Ychwanegodd bod y Gwasanaeth Iechyd dan bwysau beth bynnag, ac mai rhan o hynny sy’n gysylltiedig â Covid.
Fe wnaeth y Prif Weinidog annog pobol i feddwl cyn mynd i adrannau brys ysbytai am driniaeth, gan ddweud bod modd i bobol gael cymorth gan fferyllydd neu feddyg lleol gyntaf mewn rhai achosion.
Ddoe, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg atal pobol, gydag eithriadau, rhag ymweld â’u hysbytai yn sgil cynnydd yn nifer y cleifion sydd wedi profi’n bositif am y feirws.
Gyda chyfraddau Covid-19 mor uchel yn y gymuned ag y maen nhw ar hyn o bryd, mae’n “anochel” bod y feirws am ledaenu i ysbytai, meddai Mark Drakeford.
Oherwydd hynny, gofynnodd i bobol ystyried cysylltu ag anwyliaid sydd mewn ysbytai dros y we neu dros y ffôn.
Cyfyngiadau pellach ddim yn “anochel”
Wrth drafod cyfyngiadau pellach, dywedodd nad yw hynny’n “anochel” gan fod nifer o gamau y gallwn ni eu cymryd “gyda’n gilydd” i ymdopi â’r pwysau.
“Rhaid i bawb fod yn ‘gyfrifol’ wrth ddefnyddio eu rhyddid,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae’r cyngor yn un syml – er mwyn cynnal y lefel hwn o ryddid, rhaid defnyddio’r rhyddid yn gyfrifol.
“Mae yna ffyrdd syml ac ymarferol i wneud hynny – ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth.”
Mae’r camau hynny’n cynnwys meddwl yn ofalus am bwy mae pobol yn gyfarfod, a’r holl fesurau eraill megis sicrhau awyr iach, gwisgo mygydau, cyfarfod tu allan, sicrhau pellter cymdeithasol a golchi dwylo.
Pasborts brechu
Fe wnaeth Mark Drakeford gydnabod bod nifer o faterion cymhleth i’w trafod wrth ystyried cyflwyno pasbort brechu.
Bydd gweinidogion yn penderfynu a fydd angen pasbort brechu i gael mynediad i rai digwyddiadau mawr yng Nghymru, yn yr wythnosau nesaf.
Byddai’n “anghyfrifol” peidio ystyried hynny yng Nghymru meddai, ond pwysleisiodd na fydd angen pasbort brechu ar gyfer defnyddio gwasanaethau cyhoeddus nag ar gyfer mynediad i lefydd lle mae’n rhaid i rywun fynd iddo.
Dim ond ar gyfer llefydd lle mae pobol yn mynd o’i gwirfodd y bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried os oes angen cyflwyno pasbort brechu.
“Mae’r Alban yn cyflwyno pasbort brechu ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr ar y cyntaf o Hydref, tra y bydd pobl yn Lloegr angen cyflwyno tystiolaeth o frechu i gael mynd i ddigwyddiadau, lle mae risg uwch, o ddiwedd y mis,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae’n anghyfrifol peidio ystyried cam o’r fath ar gyfer Cymru yn sgil cynnydd yn yr achosion ac felly fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn yr adolygiad ddydd Gwener nesaf.
“Mae nifer o faterion ymarferol a moesegol sydd angen eu hystyried wrth fynnu tystiolaeth o frechu, ond rydym yn ystyried y materion hynny ar hyn o bryd.”