Mae dyn 51 wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio merch 17 oed, a bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 32 mlynedd dan glo.

Dydi Scott Walker heb ddweud wrth yr heddlu lle mae corff Bernadette Walker, a does neb yn gwybod sut gafodd hi ei llofruddio.

Wrth roi’r ddedfryd yn Llys y Goron Caergrawnt, dywedodd y Barnwr McGowan nad yw hi’n bosib dangos y parch mae Bernadette Walker yn ei haeddu gan fod Scott Walker yn gwrthod dweud lle mae ei chorff.

“Y peth mwyaf creulon yw bod hyn yn debygol o olygu bod rhai aelodau o’i theulu a’i ffrindiau’n parhau i obeithio ei bod hi’n fyw ac am ddychwelyd i’w bywydau rywbryd,” meddai’r barnwr.

Roedd Bernadette Walker yn ystyried Scott Walker yn dad iddi, a chafodd ei llofruddio ar ôl dweud ei fod wedi’i cham-drin hi’n rhywiol “dros nifer o flynyddoedd”.

Cafodd ei gweld yn fyw am y tro diwethaf ar 18 Gorffennaf 2020 pan wnaeth Scott Walker ei nôl o dŷ ei rieni yn Peterborough.

Dywedodd yr erlynydd bod Scott Walker wedi’i lladd er mwyn “ei hatal rhag parhau â’i honiadau am gamdriniaeth rywiol”.

Roedd Bernadette Walker wedi ysgrifennu yn ei dyddiadur: “Dywedais wrth fy mam am fy nhad a’r gamdriniaeth.

“Fe wnaeth hi ddweud fy mod i’n dweud celwydd, a bygwth fy lladd pe bawn i’n dweud wrth yr heddlu.”

Dywedodd Scott Walker bod Bernadette Walker wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei gar pan wnaeth e stopio’r car, ond fe wnaeth y rheithgor ei ddyfarnu’n euog.

Dywedodd yr erlynydd, Lisa Wilding, bod Scott Walker wedi gweithio ar y cyd â mam Bernadette Walker, Sarah Walker, er mwyn cuddio’r llofruddiaeth.

Cafodd Sarah Walker, 38, ei dyfarnu’n euog o rwystro cwrs cyfiawnder a’i dedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.

Dywedodd y barnwr ei bod hi’n “sicr mai Sarah Walker oedd y meddwl tu ôl i fanylion y cynllun” i guddio marwolaeth ei merch.