Mae bron i 1,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn sgil tân sy’n rhuo drwy goedwigoedd yn ne Sbaen.

Cydiodd y fflamau yn y mynyddoedd yn nhalaith Malaga yn hwyr nos Fercher (8 Medi), ac mae un diffoddwr tân wedi cael ei ladd, yn ôl yr awdurdodau.

Lledaenodd y tân yn sgil gwyntoedd cryfion, ac mae tua 940 o bobol wedi gorfod ffoi ger tref Estepona a thair bwrdeistref arall, meddai awdurdodau rhanbarthol Andalusia.

Dywedodd gwasanaeth tân yr ardal, Infoca, bod diffoddwr tân 44 oed wedi marw yn sgil llosgiadau.

Roedd y diffoddwr tân ymysg criw o bron i 300 ymladdwr tân a 29 awyren a hofrennydd a fu’n cwffio’r fflamau.

Dywedodd maer Estepona, Jose Garcia Urbano, wrth newyddiadurwyr bod yr awdurdodau’n credu y gallai’r tannau fod wedi’u dechrau’n fwriadol gan eu bod nhw wedi dechrau mewn dau le gwahanol yn hwyr yn y nos.

“Mae’n amheus iawn,” meddai’r maer wrth TVE, prif ddarlledwyr Sbaen.

Fe wnaeth mwg o’r tannau arwain at gau tua naw milltir o draffordd yr AP-7 yn yr ardal, ac yn ôl y gwasanaeth tân, roedd hi’n anoddach diffodd y tân oherwydd y dirwedd arw.

Mae tannau gwyllt – rhai’n naturiol ac eraill wedi’u dechrau’n fwriadol – yn gyffredin yn ne Ewrop yn ystod misoedd poeth yr haf.

Dywedodd Gweinidog Newid Ecolegol Sbaen bod 186,000 erw o goedwigoedd a pherthi wedi llosgi yn y wlad rhwng dechrau’r flwyddyn a 29 Awst.