Mae cyfyngiadau Covid-19 Denmarc wedi dod i ben ar ôl 548 diwrnod.
Daw hyn yn sgil llwyddiant rhaglen frechu’r wlad, sydd wedi gweld 80% o bobl dros 12 oed yn cael dau ddos o’r brechlyn.
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (10 Medi), bydd dim rhaid i bobol ddangos tystiolaeth eu bod nhw wedi cael eu brechu wrth fynd i mewn i glybiau nos – sef y cyfyngiad olaf a oedd mewn grym yno.
Mae’n debyg bod llywodraeth Denmarc wedi dod â’r cyfyngiadau i ben gan nad ydyn nhw’n ystyried Covid-19 yn “afiechyd cymdeithasol allweddol” mwyach.
Bydd masgiau yn parhau i fod yn orfodol mewn meysydd awyr, ac mae pobol yn cael eu hannog i’w gwisgo mewn meddygfeydd, canolfannau profi ac ysbytai.
Mae cyngor hefyd i ymbellhau yn gymdeithasol, ac mae cyfyngiadau llym yn parhau ar gyfer pobol sydd ddim o Ddenmarc ac yn trio dod i mewn i’r wlad.
Croesawu
Fe wnaeth Soeren Riis Paludan, sy’n Athro Firoleg, groesawu’r penderfyniad i ddod â’r cyfyngiadau i ben.
“Fyddwn i ddim yn dweud ei bod hi’n rhy gynnar,” meddai.
“Rydyn ni wedi agor y drws ond rydyn ni hefyd wedi dweud y gallwn ei gau os oes angen.”
Fe ategodd Jens Lundgren, sydd hefyd yn Athro Afiechydon Firysol, y byddai’r llywodraeth yn “barod iawn” i ailgyflwyno cyfyngiadau pe bai angen.
“Mae’r byd yng nghanol pandemig a does neb ohonon ni’n gallu honni ein bod ni tu hwnt i’r pandemig,” meddai.
“Ddylai neb fod dan yr argraff ein bod ni dros hyn eto.”