Mae chwech o aelodau lwcus o fudiad y Ffermwyr Ifanc wedi cael croesawu moch newydd i’w ffermydd yr wythnos hon.
Fe fyddan nhw’n cael cadw’r moch ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Pesgi Moch, sy’n cael ei threfnu gan Fenter Moch Cymru a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru.
Y chwe unigolyn buddugol sy’n cael moch yw Dylan Phillips, Eiry Williams, Luned Jones, Elliw Roberts, Sally Griffiths, a Laura Evans.
Fe glywon nhw eu bod nhw’n cael y cymdogion newydd yn ystod Sioe Frenhinol a oedd ar y We eleni, ac ers hynny, maen nhw wedi bod yn cael eu hyfforddi a’u paratoi i ofalu am y moch.
Maen nhw hefyd wedi cael mewnwelediad manwl i’r diwydiant gan arbenigwyr moch, a bydd y ffermwyr ifanc yn parhau i dderbyn cefnogaeth a mentora yn y dyfodol agos.
“Edrych ymlaen”
Mae Elliw Roberts o Gaergybi yn un o’r rhai sydd yn cael moch newydd ar ei fferm.
“Rwyf bob amser wedi bod eisiau cadw moch ar y fferm, a’r unig ffordd y gallwn i wneud hynny oedd ceisio yn y gystadleuaeth hon,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her dros yr wythnosau nesaf.
“Mae’r sesiynau hyfforddi wedi cychwyn ac maent mor addysgiadol, ni fyddwn a syniad sut i fagu moch heb gefnogaeth y fenter hon.
“Bydd hi mor gyffrous mynd i’r Ffair Aeaf i arddangos fy moch.”
Datblygu sgiliau
Mae Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, yn falch o allu darparu’r moch fel rhan o’r cynllun cydweithredol.
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Menter Moch Cymru eto i hyrwyddo cadw moch fel menter yn y dyfodol i’n haelodau,” meddai.
“Mae’r rhaglen yn fenter wych i aelodau o Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, a’n rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ddatblygu sgiliau rheoli busnes a da byw.
“Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn llawn brwdfrydedd ac ymroddiad i’r bennod newydd hon yn eu bywydau!”