Wrth ymateb i’r posibilrwydd y bydd y ddinas yn cael Aelod Seneddol Ceidwadol os bydd newid i’r ffiniau presennol, mae un o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor wedi dweud bod cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “annemocrataidd”.
Ar hyn o bryd, Aelod Seneddol Bangor yw un Arfon, sef Hywel Williams o Blaid Cymru.
Ond dan y cynlluniau newydd byddai etholaeth Arfon, sydd â 43,215 o etholwyr, yn cael ei hollti gyda Chaernarfon yn cael ei chynnwys yn Nwyfor Meirionnydd a Bangor a Bethesda yn etholaeth Aberconwy.
Mae amcangyfrifon cynnar gan Electoral Calculus yn awgrymu y byddai gan Fangor Aelod Seneddol Ceidwadol ar ôl yr Etholiad Cyffredinol nesaf, os caiff y cynigion eu cymeradwyo.
Yr Aelod Seneddol Ceidwadol olaf dros Fangor oedd Wyn Roberts, pan oedd y ddinas yn rhan o hen etholaeth Conwy, a bu’n gwasanaethu o 1970 tan iddo ymddeol yn 1997.
Cafodd Wyn Roberts ei olynu gan Betty Williams (Llafur) a oedd yn Aelod Seneddol Conwy rhwng 1997 a 2010.
Daeth Bangor yn rhan o Arfon, a grëwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, cyn etholiad cyffredinol 2010, ac mae’r sedd wedi bod yn nwylo Plaid Cymru ers hynny.
Ond ydi Bangor yn ddinas Geidwadol?
“Nac ydi, mae’r peth yn jôc,” meddai Huw Wyn Jones, Cynghorydd ward Garth ym Mangor wrth golwg360.
“Mi ddaru David Cameron ddweud wrth y Comisiwn Ffiniau i ddim ond cyfrif pleidleiswyr oedd wedi cofrestru.
“Y gwahaniaeth mae hynny yn ei wneud ydi bod yno lot o bobol megis pobol lleiafrif ethnig, pobol dlawd, myfyrwyr a phobol ifanc yn gyffredinol ddim wedi cofrestru i bleidleisio [ym Mangor].
“Ac mae hynna yn newid y fathemateg mewn ffordd eithaf subtle ond digonol.
“Mae o’n eithaf brawychus sut maen nhw wedi cael gwared ar bobol o’r mathemateg etholiadol.
“Mae [stad dai] Maesgeirchen [ar gyrion Bangor] yn enghraifft dda oherwydd mae yno 4,500 o bobol yn byw yno, ond 1,500 ar y mwyaf sydd wedi cofrestru i bleidleisio.
“Dw i’n rhwystredig iawn efo’r peth i gyd.”
Aelod Seneddol Ceidwadol “ddim yn ddelfrydol”
“Dydi [cael Aelod Seneddol Ceidwadol] ddim yn ddelfrydol nac ydi,” meddai wedyn.
“Rydan ni’n ardal sydd ddim yn pleidleisio i’r Blaid Geidwadol, mae’r rhwystredigaeth yn amlwg i bawb.
“Ond mae’r ffigyrau maen nhw’n defnyddio ar gyfer pethau fel yna yn aml iawn wedi eu seilio ar yr etholiad diwethaf…
“Mae yna air penodol am yr hyn maen nhw’n ei wneud, gerrymandering, dw i ddim yn meddwl fod yna air arall i’w ddisgrifio fo” meddai wedyn.
“Maen nhw’n trio newid y system i roi mantais iddyn nhw eu hunain, does yna ddim byd arall yn mynd ymlaen.
“Os wyt ti’n edrych ar y template ei hun mi alli di edrych ar beth mae’r Gweriniaethwyr wedi ei wneud yn America lle maen nhw wedi rhedeg llinellau fyny ac i lawr strydoedd er mwyn lleihau faint o Ddemocratiaid sy’n cael eu hethol.
“Dw i’n amau fod y Torïaid wedi gweld hyn a meddwl ‘dyna chi syniad da’ a gwneud yr un peth.
“Mae o’n hollol annemocrataidd.”
Newid wardiau Cyngor am greu “problemau anferthol”
Dywed Huw Wyn Jones bod cynghorwyr Bangor yn “wallgof” am newidiadau i wardiau’r ddinas sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cynigion, a fyddai’n golygu ethol llaio gynghorwyr sir i gynrychioli dinas Bangor, yn dod i rym ar gyfer etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf, wedi’u cyflwyno gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol annibynnol Cymru.
Mae’r comisiwn wedi cynnig, er y dylai wardiau Glyder a Dewi aros yr un peth, y byddai ward “Faenol” newydd yn cynnwys ardaloedd mwy trefol nag sy’n rhan o ward Pentir ar hyn o bryd.
Ond byddai gweddill wardiau Deiniol, Garth, Hendre, Hirael, Marchog, Menai a Phentir i gyd yn cael eu llyncu i adrannau ‘Canol Bangor’ neu ‘Dwyrain Bangor’, gyda phob un yn ethol dau gynghorydd.
“Yn anffodus mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi seinio i ffwrdd ar yr un peth efo wardiau Cyngor Gwynedd,” meddai Huw Wyn Jones.
“Dw i ddim yn meddwl bod yn rhaid iddyn nhw wneud, doedd yno ddim gorfodaeth arnyn nhw i ddefnyddio’r un ffigyrau ond maen nhw’n gneud.
“Wrth gwrs maen nhw’n mynd i greu problem anferthol i gynghorwyr Bangor.
“Mi fydd gen ti wardiau amhosib i ddelio gyda nhw, ti’n sôn am filoedd ar filoedd yn fwy o bobol na sydd i fod i un cynghorydd.
“Dw i ddim yn gwybod sut y maen nhw’n disgwyl y bydd unrhyw un yn gallu ymdopi efo’r gwaith ward, ac efallai bod dim ots ganddyn nhw.”
Ond ydi pobol ym Mangor yn flin am y peth?
“Resigned dw i’n meddwl ydi’r gair, ond ydi mae pobol yn flin iawn am y ffordd mae hyn yn cael ei weithredu ac yn teimlo ei fod o’n annheg iawn – dw i’n sôn am y ddau rŵan – Arfon a wardiau’r Cyngor.
“Mae’r cynghorwyr yn wallgof, dim jyst rhai Plaid ond rhai annibynnol hefyd.”