Bydd morglawdd Bae Caerdydd ar gau i gerddwyr a beicwyr am bedwar diwrnod er mwyn caniatau cynnal cyngherddau yno.

Mae’r bandiau Biffy Clyro a Chic & Nile Rodgers yn chwarae dros yn yr ardal ar benwythnos 17-18 Medi.

Bydd y llwybr rhwng cylchfan Porth Teigr a Phenarth ar gau rhwng 16:30 a hanner nos ddydd Iau, 16 Medi.

Ddydd Gwener a dydd Sadwrn (17-18 Medi), bydd y llwybr ar gau rhwng hanner dydd a 12:30am, a dydd Sul (19 Medi) rhwng hanner dydd a hanner nos.

Roedd Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw wedi penderfynu cau’r llwybr fel bod dim torfeydd yn casglu a rhwystro cerddwyr, ac er mwyn osgoi golygfeydd tebyg i ffeinal Ewro 2020 yn Wembley.

Rhwystredigaeth

Mae’r penderfyniad i gau’r morglawdd ar gyfer cerddwyr a beicwyr wedi cael ei feirniadu gan gynghorwyr yng Nghaerdydd, yn cynnwys y Cynghorydd Joe Carter.

“Mae’n syndod mawr gweld llwybr cerdded a beicio prysur ar gau dros y penwythnos er mwyn caniatáu i gyngerdd gael ei chynnal,” meddai.

“Y penwythnos yw’r amser prysuraf i’r morglawdd, yn enwedig ar gyfer penwythnos olaf yr Aqua Park.

“Mae’n anodd dychmygu ffordd fawr yn cael ei chau, ac eto mae anghenion cerddwyr a beicwyr yn cael eu hanwybyddu.

“Dylai’r morglawdd a’r ffordd fynediad fod yn ddigon eang i ganiatáu i bawb ei ddefnyddio, felly rydyn ni’n gobeithio gall y cyngor ailystyried a dod o hyd i ffordd o’i gadw ar agor i bawb.”