Mae aelod o Dŷ’r Arglwyddi eisiau cael gwared ar wasanaethau boreol o bob ysgol ym Mhrydain.

Dywed yr Arglwydd Desai y dylai plant mewn ysgolion gael eu “sbario” a’u “rhyddhau” rhag gorfod mynychu gwasanaethau boreol.

Awgrymodd hefyd y dylid caniatáu i ddisgyblion gael y dewis o awr ychwanegol yn y gwely os na all eu hysgol ddod o hyd i unrhyw beth arall iddynt ei wneud yn yr amser a neilltuwyd ar gyfer gwasanaeth.

Byddai’r Bil Addysg (Gwasanaethau), a gynigiwyd gan y Farwnes Burt o Solihull, yn gymwys i ysgolion sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth yng Nghymru a Lloegr.

Byddai’n dileu’r gofyniad gorfodol am addoli ar y cyd yn yr ysgolion hyn ond byddai’n galluogi disgyblion ac athrawon i drefnu gweithredoedd gwirfoddol o addoli ar y cyd.

Ni fyddai’r Bil yn berthnasol i ysgolion ffydd.

Dywedodd yr Arglwydd Desai:

“Rwy’n credu ei fod yn syniad rhyfedd iawn mai dim ond drwy gael pobol at ei gilydd a’u harasio y gellir cynnal addysg foesol ac ysbrydol.

“Dylai’r addysg ysgol gyfan fod yn gwneud hynny drwy’r amser a does dim angen awr arbennig arnoch i ddod â’r myfyrwyr at ei gilydd.

“Rwy’n cefnogi’r Bil hwn yn galonnog ac rwy’n credu, os yw’n bosibl, y dylid ei ddiwygio yn ystod cyfnod y pwyllgor a dylid rhyddhau pob ysgol rhag gwasanaethau.”

‘Dim angen diwygio’

Wrth siarad ar ran y Llywodraeth, dywedodd y Farwnes Chisholm o Owlpen, nad oes “angen” diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol ar addoli ar y cyd.

“Mae addoli ar y cyd eisoes yn hyblyg ac yn gynhwysol ei natur,” meddai.

“Rydym yn hyderus y bydd ein hysgolion yn ymdrechu i hyrwyddo addysg ysbrydol, gymdeithasol, moesol a diwylliannol eu holl ddisgyblion heb i hyn effeithio ar eu dyletswydd gyfreithiol i ddarparu gweithredoedd dyddiol o addoli ar y cyd.”