Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cyhoeddi neges i nodi union ugain mlynedd ers ymosodiadau brawychol 9/11 yn yr Unol Daleithiau.

Ar 11 Medi 2001, cafodd pedair awyren eu cipio a’u hedfan i mewn i sawl adeilad ar draws y wlad.

Cafodd y gyntaf a’r ail eu hedfan i mewn i adeiladau’r World Trade Centre yn Efrog Newydd, gyda chwarter awr rhyngddyn nhw – roedd 11 aelod o’r criw a 76 o deithwyr ar y naill awyren a naw aelod o’r criw a 51 o deithwyr ar yr ail.

Aeth trydedd awyren i mewn i’r Pentagon yn Virginia yn fuan wedyn, gyda chwe aelod o’r criw a 53 o deithwyr arni.

Bum munud yn ddiweddarach, daeth awyren i lawr mewn cae yn Pennsylvania a honno’n cludo saith aelod o’r criw a 33 o deithwyr.

Roedden nhw’n ymosodiadau newidiodd y byd am byth, gan arwain at frwydr yn erbyn brawychiaeth yn Affganistan ac yn erbyn Islamyddion sy’n para hyd heddiw.

“Heddiw, mae hi’n 20 mlynedd ers ymosodiadau 9/11 – digwyddiad erchyll sy’n dal yn fyw yn ein hatgofion,” meddai Mark Drakeford.

“Mae fy meddyliau gyda ffrindiau a theuluoedd pawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr ymosodiadau wrth iddynt nodi’r garreg filltir drist yma.”