Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud mai “undod yw prif gryfder” y wlad, wrth iddo annerch y genedl ugain mlynedd union ers ymosodiadau brawychol 9/11.

Dyma’r tro cyntaf iddo arwain y wlad ar ddiwrnod cofio’r ymosodiadau, a seneddwr oedd e adeg yr ymosodiadau ar 11 Medi 2001.

Mae disgwyl iddo ymweld â’r safleoedd lle tarodd awyrennau i mewn i adeiladau ac i’r ddaear, ond fydd e ddim yn gwneud anerchiad swyddogol – yn hytrach, mae e eisoes wedi recordio araith sy’n cael ei darlledu ledled y byd.

Yn honno, siaradodd e am “wir ystyr undod cenedlaethol” ac “arwyr ym mhob man – mewn llefydd disgwyliedig ac annisgwyl”.

“I fi, dyna yw gwers ganolog Medi 11,” meddai, “mai undod yw ein prif gryfder.”

Taith

Cyrhaeddodd Joe Biden Efrog Newydd neithiwr, wrth i oleuadau ‘Tribute in Light’ nodi’r fan lle’r oedd dau dŵr y World Trade Centre a gafodd eu taro yn arfer sefyll.

Bydd e’n ymweld â’r Gofeb Medi 11 Genedlaethol ar y safle cyn teithio i Shanksville yn Pennsylvania lle plymiodd awyren arall i’r ddaear wrth i deithwyr frwydro yn erbyn brawychwyr oedd wedi cipio awyren.

Yn olaf, bydd e’n teithio i’r Pentagon, un o brif safleoedd milwrol y wlad.