Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd wedi canslo llawdriniaethau o ganlyniad i gynnydd mewn achosion Covid-19, gan ddweud bod y penderfyniad yn angenrheidiol er mwyn “gofalu’n ddiogel am gleifion”.

Maen nhw hefyd wedi cyfyngu ar ymweliadau â’u hysbytai yn dilyn achosion ar bedwar safle yn y gogledd ac mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn rhybuddio bod y sefyllfa’n debygol o waethygu eto.

Mae’r cyfyngiadau ar waith yn Ysbyty Gwynedd Bangor, Ysbyty Eryri Caernarfon, Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan ac Ysbyty Llandudno.

Ond nid dim ond ysbytai’r gogledd sydd wedi cael eu heffeithio chwaith.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewisoes wedi canslo rhai llawdriniaethau ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi atal ymwelwyr yn y rhan fwyaf o achosion.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod nhw “dan bwysau difrifol” yn sgil cynnydd mewn achosion ledled yr ardal, gyda gofal sydd heb ei drefnu yn dal ar gael ond bod disgwyl oedi, er eu bod nhw’n annog pobol i beidio â mynd i unedau brys oni bai bod rhaid.

Bu’n rhaid cau ward yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, tra bod rhai llawdriniaethau yn Llanelli a Hwlffordd wedi’u canslo hefyd.