Mae undeb GMB wedi beirniadu penderfyniad “hollol abswrd” Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dynnu bwyleri nwy allan o fwy na miliwn o gartrefi yng Nghymru.
Mae’r undeb yn rhybuddio y bydd yn arwain at anghyfleustra gwresogi i filiynau o bobol, gan gynnwys biliau uchel, ac atgasedd at ymgyrch Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyrraedd sero net.
Daw’r rhybudd ar drothwy pleidlais fawr ar ddyfodol y sector ynni wrth i Gyngres y TUC gyfarfod yfory (dydd Sul, Medi 12).
Mae lle i gredu bod Llywodraeth Prydain am wahardd gosod bwyleri nwy newydd o 2035, er bod sïon hefyd y gallai gael ei ohirio tan 2040.
Yn ôl GMB, mae 1.1m o gartrefi yng Nghymru wedi’u cysylltu i’r grid nwy, ac mae bron i naw ym mhob deg o gartrefi (86%) yn y wlad yn defnyddio nwy ar hyn o bryd.
Cynlluniau’r llywodraeth a’u heffaith
Yn ôl cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gallai pobol orfod talu i osod pwmp gwres trydan, sy’n costio £8,750 ar gyfartaledd cyn TAW, ac mae hynny’n cyfateb i fwy na thraean o incwm blynyddol cyfartalog teuluoedd yng Nghymru.
Ond gallai’r gost i rai cartrefi fod yn sylweddol uwch na hynny.
Pobol yn sir Torfaen sy’n debygol o ddioddef waethaf yn sgil y cynllun, fel y sir sydd â’r cysylltedd mwyaf i’r grid nwy yn y wlad (98.4%).
Mae undeb GMB am weld rhaglen trosi i nwyon gwyrdd megis hydrogen a fyddai’n gallu cefnogi hyd at 100,000 o swyddi.
‘Buddsoddi yn y rhwydwaith nwy’
“Trwy fuddsoddi mewn technolegau hydrogen, gallwn ddefnyddio ein rhwydwaith nwy cyfredol yn hytrach na’i daflu i gyd i ffwrdd,” meddai Andy Prendergast, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb GMB.
“Ac fe fydd gan filoedd o beirianwyr nwy dawnus ledled y wlad swyddi’n addasu’r systemau.
“Mae hydrogen yn hanfodol i gyflawni ein targedau sero net ac yn hanfodol i sicrhau symudiad go iawn ar gyfer gweithwyr nwy.”