Mae gorsaf drenau’r Trallwng wedi bod yn cynghori teithwyr bod “blaen 2 hyfforddwyr” trên ar ei ffordd atyn nhw.

Ar hysbysfwrdd uwchlaw’r platfform, roedd arwydd yn yr orsaf ddoe (dydd Gwener, Medi 10) yn dweud bod “blaen 2 hyfforddwr” trên ar fin cyrraedd, a bod trên “Pwllheli & Aberystwyth 13:51 ar amser”.

Doedd gan yr hysbyseb ddim oll i’w wneud â dysgu ond yn hytrach, yn dweud bod dau gerbyd trên ar eu ffordd.

Cafodd y cyfeithiad gwael o “front 2 coaches” ei bostio mewn llun ar Twitter gan yr actores Lynwen Haf Roberts.

“A fyddai’n bosib i rywun yn @tfwrail addasu’r arwyddion Cymraeg yng ngorsaf y Trallwng ac unrhyw un arall sy’n gwneud y camgymeriad hwn?” meddai mewn neges.

“‘Cerbyd’ yw coach yng nghyd-destun trenau/’cerbydau’ yw ‘coaches’.

“‘Hyfforddwyr’ yw’r gair am hyfforddwr chwaraeon neu ei debyg. Diolch! #sgymraeg

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar y cyfrif Twitter @tfwrail, “Byddaf yn pasio eich sylwadau i’n Pennaeth Iaith Gymraeg”.

Mae golwg360 wedi gofyn am sylw gan Drafnidiaeth Cymru, sy’n dweud nad yw’n fater brys ac felly y byddan nhw’n ymateb yn ystod yr wythnos.