Mae Alex Salmond wedi’i ethol yn arweinydd parhaol plaid Alba, ac mae Kenny MacAskill wedi’i ethol yn ddirprwy arweinydd yng nghynadledd gyntaf erioed y blaid.

Yn y gynhadledd yn Greenock, cafodd Salmond ei ethol yn ddiwrthwynebiad, ac roedd y dorf o ychydig gannoedd ar eu traed i’w groesawu.

Fe fu Salmond, cyn-brif weinidog yr Alban, yn arweinydd dros dro ers sefydlu’r plaid ar ôl gadael yr SNP.

Mae MacAskill ymhlith cyn-aelodau eraill yr SNP sydd wedi dilyn Salmond allan o’r blaid a thuag at y blaid newydd.

Enillodd e’r bleidlais o 837 o bleidleisiau i 323, gan drechu Michelle Ferns, sy’n gynghorydd yn Glasgow.

Roedd MacAskill ymhlith yr aelodau cyntaf i symud o’r SNP at Alba, ac fe wnaeth y blaid ethol nifer o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban yn gynharach eleni, er na wnaethon nhw ennill yr un sedd.

Mae Chris McEleny, un arall o gyn-aelodau’r SNP, wedi’i ethol yn ysgrifennydd cyffredinol Alba yn dilyn cyfnod dros dro yn y swydd.