Mae arweinydd Cyngor Glasgow wedi cyhuddo Boris Johnson o danseilio materion newid hinsawdd a llywydd Cop26.
Yn ôl Susan Aitken, sydd wedi bod yn annerch cynhadledd yr SNP, “tynnu lluniau gwallgof” yw prif flaenoriaeth prif weinidog Prydain, gan fanteisio ar brosiectau newid hinsawdd i wneu hynny.
Ond mae’n cydnabod fod Alok Sharma, y gweinidog yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gweithio’n galed yn y maes, er bod ei waith yn destun ymyrraeth gan Boris Johnson.
Dywed Susan Aitken fod Boris Johnson yn gweld “isadeiledd gwyrdd fel rhywbeth i roi baner yr Undeb ynddo a sefyll yn ei ymyl am gyfle i gael llun gwallgof”.
Serch hynny, mae’n dweud bod Cop26 yn gyfle i roi materion gwyrdd, gan gynnwys newid hinsawdd, ar yr agenda yn Glasgow a’r Alban.
“Rydym yn gwybod beth yw’r wobr,” meddai.
“Awyr iach, sicrwydd bwyd lleol, terfyn ar dlodi tanwydd, trafnidiaeth gyhoeddus ratach, gofod gwyrdd i bawb a sgiliau a swyddi cynaladwy o werth uchel mewn economi fodern wydn.”
Mae hi’n darogan mai £30bn fyddai cost datgarboneiddio Glasgow ond yn dweud ei “bod yn werth” gwneud hynny gan ei bod yn “angenrheidiol”.