Mae cyfreithwyr ar ran y Tywysog Andrew yn gwadu iddo dderbyn papurau cyfreithiol ar ôl i ddynes ei gyhuddo o’i cham-drin yn rhywiol.

Mae Virginia Giuffre wedi lansio achos sifil yn erbyn y tywysog yn Efrog Newydd, ac mae angen i bapurau cyfreithiol gael eu cyflwyno cyn bod modd cynnal gwrandawiad.

Mae ei chyfreithwyr yn dweud bod papurau wedi’u rhoi i blismon y tu allan i gartre’r tywysog yn Windsor.

Bydd rhaid i farnwr yn yr Unol Daleithiau fynd ati i benderfynu a gafodd y papurau eu cyflwyno yn y modd cywir cyn i’r achos ddechrau.

Cefndir

Roedd y plismon dan sylw ar ddyletswydd y tu allan i gartre’r Tywysog Andrew am 9.30yb ar Awst 27, yn ôl papurau cyfreithiol yn Efrog Newydd.

Fe wnaeth e dderbyn y papurau yn y modd cywir, yn ôl y ddogfen, ond mae cyfreithwyr Blackfords sy’n cynrychioli’r tywysog wedi codi amheuon am y modd y cafodd y papurau eu cyflwyno.

Mae cynrychiolwyr Virginia Guiffre yn dweud nad yw honiadau Blackfords yn gywir, ac mae hi wedi dwyn achos yn erbyn y tywysog gan ddweud iddo ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi yn ei harddegau.

Mae’n honni iddi ddod i gysylltiad â Jeffrey Epstein, ffrind y tywysog a gafodd ei garcharu ac a fu farw yn y carchar, gyda’r bwriad o’i chyflwyno i’r tywysog am ryw pan oedd hi’n 17 oed ac o dan yr oedran cyfreithiol yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r tywysog yn gwadu’r honiadau.

Cyflwyno’r papurau

Mewn dogfennau sydd wedi’u rhoi i’r llys, mae cyfreithwyr yn dweud iddyn nhw geisio cyflwyno’r papurau i’r tywysog ar Awst 26 pan aeth asiant i’w gartref yn Windsor.

Dywed y ddogfen nad oedd modd i blismon oedd yn bennaeth diogelwch yno dderbyn y papurau a’i fod yn gwrthod rhoi mynediad iddyn nhw i’r safle.

Dychwelodd yr asiant y diwrnod canlynol a chael gwybod fod modd gadael y papurau gyda’r plismon wrth y fynedfa ac y byddai’r tîm cyfreithiol yn ymdrin â’r mater.

Rhaid ateb y llythyr o fewn 21 diwrnod i’w dderbyn.

Helynt

Fe wnaeth y tywysog gamu’n ôl o fywyd cyhoeddus ar ôl i’w gysylltiad â Jeffrey Epstein ddod i’r amlwg.

Roedd hyn yn dilyn cyfweliad â Newsnight yn 2019 lle ceisiodd e ymbellhau oddi wrth Epstein.

Yn ôl y Daily Mail, mae’r tywysog wedi bod yn aros yng nghastell Balmoral gyda’i gyn-wraig Sarah Ferguson ers mis Awst.

Mae Palas Buckingham a llefarydd y tywysog wedi gwrthod gwneud sylw am yr honiadau yn ei erbyn.