Mae dyn o Lantrisant wedi mynd ati i archwilio hanes ysbrydion a’r goruwchnaturiol ei ardal mewn cyfrol newydd.

Mae’r hanesydd Dean Powell, sy’n gweithio ym maes treftadaeth leol, wedi bod yn ymchwilio i’r hanes ers blynyddoedd er mwyn ysgrifennu a chyhoeddi Ghostly Tales of Llantrisant.

Treuliodd e wyth mlynedd yn gweithio ar brosiect i godi arian er mwyn trawsnewid adeilad Cofrestredig Gradd II o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn amgueddfa.

Yn 2017, sefydlodd e lwybr arswyd yn Llantrisant sy’n denu miloedd o bobol i’r dref bob blwyddyn er mwyn cael gwybod mwy am hanes ysbrydion a’r goruwchnaturiol ar strydoedd y dref.

Y gyfrol

O wrachod i ysbrydion ac o lofruddiaethau i sawl pla, mae’r gyfrol yn rhoi sylw i hanner cant a mwy o hanesion tywyll Llantrisant.

“Mae hanesion hynafol o aberthion paganaidd, derwyddon, cerrig allor llawn gwaed, a gwrachod i gyd o’n cwmpas ni ond eto, dyma’r tro cyntaf i lyfr sy’n archwilio hanes mwy tywyll y dref gael ei gyhoeddi,” meddai.

“Ces i fy ngeni yn Llantrisant a fy magu yn clywed straeon am filwyr yn cael eu lladd yn y castell, y brenin druan yn cael ei garcharu yn ei ddwnjwn ffiaidd a sut mae eneidiau trafferthus troseddwyr a gafodd eu dienyddio yn llechu ar safle’r crocbren marwol.

“Roedden ni’n gwybod y straeon am y saethwyr bwa hir chwedlonol a ddychwelodd yn fuddugol o Frwydr Crecy yn 1346 a marw’n erchyll o’r Pla Du mewn tref lle mae eneidiau dioddefwyr y pla yn dal i daflu eu cysgod drosti.

“Mae hanesion rhyfeddol Dr William Price a’i ddilyniant cwlt wrth iddo amlosgi ei blentyn ar fryn uwchlaw’r dref yn enghraifft nodweddiadol o’r pethau erchyll oedd yn digwydd yn y gymuned ac sy’n parhau i lechu yn y presennol er bod 130 o flynyddoedd wedi mynd heibio.”