Mae Jim Sillars, cyn-ddirprwy arweinydd yr SNP, yn dweud na ddylid cynnal refferendwm annibyniaeth arall yn yr SNP oni bai bod 60% o’r boblogaeth am weld y wlad yn mynd yn annibynnol.
Daeth ei sylwadau wrth iddo gynnal digwyddiad ymylol yng nghynhadledd plaid Alba yn Greenock, er ei fod yn dal yn aelod o’r SNP.
Daeth cadarnhad yr wythnos hon fod gweision sifil yn paratoi ‘prosbectws’ ar gyfer refferendwm arall a’r bwriad yw ei gynnal erbyn 2023 fel rhan o’r fargen rhwng yr SNP a’r Blaid Werdd i gydweithio ar feysydd cyffredin.
Yn ôl Jim Sillars, gallai cynnal refferendwm arall yn rhy fuan niweidio’r mudiad annibyniaeth, ac mae’n rhybuddio rhag “stori dylwyth teg y refferendwm”.
“Dydych chi ddim eisiau refferendwm oni bai eich bod chi wedi adeiladu’r gefnogaeth sy’n sicrhau eich bod chi am ei ennill e,” meddai.
“Pe bawn i’n Boris Johnson, byddwn i’n cynnig refferendwm i ni ym mis Mawrth, oherwydd fydden ni ddim yn ei ennill e.”
Yn y cyfamser, mae e’n annog yr SNP ac Alba i gydweithio, er ei fod yn cydnabod fod hynny’n annhebygol gyda’r arweinwyr presennol, Nicola Sturgeon ac Alex Salmond, wrth y llyw.