Mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes, sydd wedi byw a gweithio yn Efrog Newydd, wedi dweud wrth golwg360 fod y digwyddiadau i gofio’r rhai fu farw yn yr ymosodiadau brawychol ar 11 Medi 2001 wedi “uno gwlad sydd yn hollt”.

Ugain mlynedd union yn ôl, tarodd dwy awyren ddau dŵr y World Trade Center, gan ladd 2,996 o bobol.

Cafodd 189 o bobol eu lladd gan drydedd awyren yn taro’r Pentagon yn Virginia, a 44 arall pan blymiodd pedwaredd awyren i’r ddaear yn Shanksville, Pennsylvania.

Cofleidio
Cwpl yn cofleidio’i gilydd yn Efrog Newydd

“Mae o wedi bod yn ddiwrnod emosiynol iawn i bawb yma, yn enwedig i bobol yn Efrog Newydd,” meddai’r newyddiadurwraig wrth siarad â golwg360 o’r gofeb ar safle ‘Ground Zero’ lle’r oedd y ‘Twin Towers’ yn arfer sefyll.

“Dw i’n meddwl bod y ffaith fod ugain mlynedd wedi mynd heibio yn rywbeth sydd wedi effeithio ar bobol yma ac ar draws America a’r byd, a phawb sydd wedi bod yn rhan o’r rhyfeloedd yn Irac ac Affganistan wedyn.

“Bore yma, roeddwn i’n sefyll yma pan oedd y gwasanaeth yn mynd ymlaen ac roedd o mor emosiynol.

“Mae yna filoedd o bobol yma o hyd, ac maen nhw wedi dod o bob man, nid jyst ‘New Yorkers’.

“Maen nhw wedi dod o dros America, ac mae lot ohonyn nhw’n gwisgo crysau T gyda rhywbeth fel ‘Remember 9/11’ arnyn nhw.

“Mae pawb yn teimlo fel bod rhaid iddyn nhw ddod yma heddiw a bod gyda’i gilydd a rhannu’r diwrnod yma i gofio’r bobol oedd wedi marw yn yr ymosodiadau.”

‘Profiad diddorol ond anodd’

A hithau’n byw a gweithio yn Efrog Newydd ar adeg yr ymosodiadau, mae ganddi atgofion fel un o drigolion y ddinas ac fel newyddiadurwraig yn adrodd yr hanes.

“Mae gyda fi deulu sy’n byw ddau stop o’r ddau dŵr,” meddai.

Cofeb 9/11 yn Efrog Newydd
Y gofeb 9/11 yn Efrog lle’r oedd y ‘Twin Towers’ yn arfer sefyll

“Ar y diwrnod, ro’n i wedi hedfan allan o [faes awyr] JFK wyth awr cyn yr ymosodiad cyntaf a chyrraedd Rhufain a throi’r teledu arno’n syth – do’n i ddim yn gallu cysgu – a gweld yr ail awyren yn taro’r ail dŵr.

“Ro’n i gyda ffrind ac roedd ei thad yn y Pentagon ac roedd hi’n oriau cyn ei bod hi’n gwybod os oedd ei thad wedi cael ei ladd.

“Ro’n i wedi dod yn ôl i America bythefnos wedyn ac roedd y wlad wedi newid. I fod yma dros y blynyddoedd i weld y gwahanol bethau sydd wedi digwydd, i ddechrau America’n mynd i ryfel yn Affganistan ac wedyn, wrth gwrs, yn Irac, a gweld y protestiadau yma yn Efrog Newydd, mae o wedi bod yn brofiad diddorol iawn ac weithiau’n anodd iawn.

“Felly i wneud y stori yma ar ôl ugain mlynedd o fod yn ôl ac ymlaen yn America, mae o wedi bod yn bwysig iawn i fi fel newyddiadurwraig.

“Mae 9/11 wedi bod yn un o’r storïau mwya’ anodd i’w gwneud achos dwi yn teimlo cyfrifoldeb wrth wneud y stori yma.

“Mae’n rywbeth dwi angen gwneud yn siŵr bo fi’n gwneud yn iawn ac ro’n i eisiau gwneud cyfweliadau gyda phobol roedden nhw’n hapus gyda nhw hefyd.

“Mae’n anodd iawn i bobol siarad am 9/11, pobol oedd wedi colli rhywun neu wedi bod yma yn ystod yr ymosodiadau.”

‘Heddiw wedi bod bach yn wahanol’

A hithau’n garreg filltir nodedig eleni, mae Maxine Hughes yn dweud bod yr achlysur yn teimlo ychydig yn wahanol i’r arfer, er mai’r un oedd y ddefod i’r teuluoedd a’r goroeswyr wrth iddyn nhw ymgynnull ger y gofeb.

Blodau ar y gofeb 9/11
Blodau ar y gofeb 9/11 yn Efrog Newydd

“Bob blwyddyn, mae teuluoedd y dioddefwyr yn dod yma ac yn darllen yr enwau allan, mae yna waliau o gwmpas y gofeb gydag enw pob person a laddwyd yn yr ymosodiadau,” meddai.

“Heddiw, roedd y teuluoedd yma i wneud yr un fath, ond dw i yn teimlo bod heddiw wedi bod bach yn wahanol, gymaint o emosiwn.”

Ond mae yna reswm arall hefyd, sef fod pobol ifanc wedi mynd yno nad ydyn nhw’n debygol o fod yn cofio’r digwyddiad ugain mlynedd yn ôl.

“Mae Americanwyr wedi bod yn siarad yn aml eleni am y ffaith fod yn rhaid iddyn nhw ddysgu pobol ifanc am y digwyddiad a bod rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bod pawb yn cofio neu’n dysgu am 9/11.”

‘Mae geiriau Joe Biden yn bwysig iawn’

Er bod yr Arlywydd Joe Biden wedi ymweld â thri safle’r ymosodiadau yn ystod y dydd – rhywbeth sydd, ynddo’i hun, yn beth prin – wnaeth e ddim annerch cynulleidfa fyw yn yr un ohonyn nhw.

Yn hytrach, cyhoeddodd e fideo ar drothwy’r diwrnod gan ddweud ei bod hi “mor anodd” i Americanwyr o hyd, fod “plant wedi cael eu magu heb rieni a bod rhieni wedi dioddef heb blant”.

Dywedodd e hefyd fod y digwyddiad wedi arwain at “undod cenedlaethol”.

“Does dim ots faint o amser aeth heibio, ac mae’r digwyddiadau coffa hyn yn dod â’r holl boen yn ôl, yn union fel pe baech chi ond wedi derbyn y newyddion ychydig eiliadau’n ôl,” meddai’r arlywydd.

“Ac felly, ar y diwrnod hwn, rwyf fi a Jill [ei wraig] yn eich dal chi’n agos yn ein calonnau ac yn anfon ein cariad atoch.”

Ond daw’r sylwadau ryw fis ar ôl i’r arlywydd dderbyn cais i gadw draw o’r digwyddiadau coffa oni bai ei fod yn rhoi’r hawl i gyhoeddi adroddiadau maen nhw’n honni fydd yn datgelu cefnogaeth Saudi Arabia i’r ymosodiadau.

Sut ymateb sydd wedi bod i’w sylwadau ar 9/11, felly?

“Mae Joe Biden yn cymryd rhan yn y digwyddiad wedi bod yn rywbeth dadleuol iawn,” meddai Maxine Hughes wrth gyfeirio at “y papurau sy’n rhan o ymchwiliad yr FBI yn y blynyddoedd ar ôl 9/11”.

“Mae Biden wedi cadarnhau ei fod o’n mynd i ryddhau’r papurau, ac mae’r papur cyntaf wedi bod allan heddiw,” meddai.

“Felly mae Biden wedi dod yma ac mae pobol wedi rhoi croeso iddo fo ddod yma.

“Dw i’n meddwl bod geiriau Joe Biden yn bwysig iawn, mae’r wlad yma’n wlad sydd yn hollt ac mae diwrnod fel 9/11 yn rhoi cyfle i’r wlad deimlo’n unedig.”

‘Dydyn nhw ddim yn coelio bod America allan o Affganistan am byth’

Yn ôl Maxine Hughes, mae rhan o ddicter Americanwyr at yr arlywydd yn deillio o’r ffordd y gwnaeth milwyr y wlad adael Affganistan.

Baner y Taliban yn llosgi baner Affganistan

Mae’r ymadawiad, sydd wedi’i ddisgwyl ers tro, yn gadael dyfodol Affganistan, a gweddill y byd, yn aneglur unwaith eto.

“Roedd pobol yn flin iawn ac mae’n wir i ddweud, er bod pobol eisiau gadael Affganistan, doedd pawb ddim yn cytuno gyda’r ffordd roedd yr Americanwyr wedi gadael, ac mae llawer iawn o bobol yma’n siarad am derfysgaeth eto ac yn poeni am y ffaith mai’r Taliban sydd rŵan yn rheoli’r wlad eto.

“A gyda’r ffaith fod ISIS yn dechrau ymosod ar Kabul eto, ie maen nhw’n poeni am ddyfodol America eto rŵan.

“Mae gennyf fi ffrindiau sydd yn filwyr, pobol sydd wedi bod allan yn Affganistan ac Irac ac yn bendant maen nhw’n gofyn y cwestiwn [beth oedd diben y rhyfel os yw’r Taliban wrth y llyw unwaith eto?].

“Mae cymaint o bobol wedi marw, cymaint o bobol o America, cymaint o Brydain ac, wrth gwrs, o Affganistan ac Irac, dros hanner miliwn o bobol.

“Mae lot o bobol yma hefyd sydd yn dweud eu bod nhw’n teimlo bod America’n mynd i fynd ’nôl i Affganistan rywbryd yn fuan. Dydyn nhw ddim yn coelio bod America allan o Affganistan am byth.”

“Her enfawr” Joe Biden

Yn Ddemocrat, mae’r Arlywydd Joe Biden a’r cyn-arlywydd Gweriniaethol George W. Bush, oedd wrth y llyw adeg mynd i ryfel yn Affganistan, yn cynrychioli dwy blaid wahanol.

Ond os yw ofnau Americanwyr y gallai’r wlad ddychwelyd i Affganistan eto nawr fod y Taliban wrth y llyw eto, pa mor ffyddiog yw Americanwyr eu bod nhw mewn dwylo diogel gyda’r arlywydd presennol?

“Dydi Americanwyr ar hyn o bryd ddim yn meddwl bod Joe Biden yn gwneud yn dda iawn gyda pholisïau tramor,” meddai Maxine Hughes.

“I fod yn onest, mae yna lawer o bobol yma sydd yn credu bod Biden yn dda iawn gyda pholisïau domestig, ond erioed wedi bod yn dda gyda pholisïau tramor.”

Yn ôl y newyddiadurwraig, gallai’r ffordd mae’r arlywydd yn mynd ati i wrthsefyll y bygythiad o du’r Taliban ddylanwadu’n gryf ar ganlyniadau’r etholiadau hanner tymor y flwyddyn nesaf.

“Mae’n her enfawr i Joe Biden sut mae o’n mynd i ddelio gyda’r sefyllfa yma ac, wrth gwrs, does dim lot rhwng y chwith a’r dde,” meddai.

“Ac os nad ydi Joe Biden yn delio efo’r sefyllfa’n dda iawn, wel rydan ni yn mynd i weld newid, faswn i’n meddwl, fis Tachwedd nesaf.”