Mae Siôn Jobbins, cyn-gadeirydd y mudiad annibyniaeth YesCymru, yn dweud bod “angen i roi pobol roi egos naill ochr” er lles dyfodol y mudiad.
Daw ei sylwadau rai misoedd ar ôl iddo gamu o’r neilltu am resymau personol ar ôl cyfnod cythryblus yn hanes ifanc y mudiad yn dilyn ffraeo mewnol.
Fe ddigwyddodd yn dilyn twf sydyn yn y mudiad, yn bennaf oherwydd Brexit a Covid dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae Siôn Jobbins yn cydnabod nad oedd y strwythurau priodol yn eu lle i ymdopi â’r twf hwnnw.
Does gan y mudiad ddim cadeirydd na phwyllgor canolog ar hyn o bryd ar ôl i’r criw diwethaf gamu o’r neilltu.
“Rhaid torchi llewys ac mae angen i rai pobl roi egos naill ochr – rhaid i ni weithio gyda’n gilydd gan roi annibyniaeth i Gymru gyntaf,” meddai.
“Mae neges YesCymru nawr yn bwysicach nag erioed. Dwi’n meddwl bod pethau yn newid yn glou iawn – mae pobol yn awchu am newid, mae pobol yn awchu am rywun ag arweiniad a dwi’n meddwl mai YesCymru sy’n cynnig hynna.
“Rhaid i ni feddwl nawr be rydan ni’n gwneud y diwrnod y mae’r Alban yn datgan annibyniaeth – rhaid i ni beidio cael ein dal mas achos bo ni ddim wedi ’neud y gwaith caled.
“Mae San Steffan wedi cael blynyddoedd i gynnig ffederaliaeth – dyw e jyst ddim yn mynd i ddigwydd. Fi’n credu mai ffenest o ryw 18 mis fydd ’da ni i gael annibyniaeth wedi i’r Alban ddatgan – os yw’n hwy na hynny bydd San Steffan wedi rhoi cyfansoddiad mewn trefn a fydd yn ei gwneud hi’n anodd i adael.”
Symud ymlaen ar ôl problemau mewnol
Ar ôl “haf tawel” i’r mudiad wrth iddyn nhw aildrefnu a gweithio tuag at sefydlu pwyllgor newydd yn yr hydref, mae Siôn Jobbins yn dweud nad oes “yna ddim amser i bobol ddadlau ymysg ei gilydd”, yn enwedig wrth i’r Alban baratoi am refferendwm arall cyn 2023.
“Fe dyfodd y mudiad yn glou iawn ac yn fendigedig a hynod o gynhyrfus – ac mae e dal yma.
“Ni wedi cael haf tawel – mae eisiau i’r mudiad nawr gael pwyllgor canolog at ei gilydd i ddechrau rhoi trefn ar bethau a ffurfio cyfansoddiad… does yna ddim amser i bobl ddadlau ymysg ei gilydd.
“O ran y pwyllgor canolog rhaid i bawb fod y tu cefn iddyn nhw. Nawr bod Covid gobeithio yn tawelu, ni methu jyst bod ar-lein – mae pobol eisiau gwneud rhywbeth dyfnach nawr.
“Rhaid dechrau mynd nôl ar y stryd a chael ralïau – ond hefyd trafod gyda phobl. Rhaid cael papur newydd allan yn yr hydref gan gyrraedd miliwn o bobl unwaith eto. Does dim amser ’da ni bellach i drafod manion.
“Ro’n i’n fudiad a dyfodd yn fawr iawn a doedd gennym ddim strwythurau i ddelio gyda hynny – mae rheina nawr yn cael eu rhoi mewn lle ac mae eisiau cryfhau hynny.
“Mae angen edrych ar staffio a sicrhau bod gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan bobl sy’n cael eu talu. Gall y pwyllgor canolog ddim wastad trafod pob penderfyniad ar Twitter neu fydd dim yn cael ei benderfynu.
“Os yw pobol eisiau stwff i ddigwydd mae eisiau i rai pobl roi eu egos i’r naill ochr.”
Mae’n dweud ymhellach fod y syniad fod adain asgell chwith wedi cymryd drosodd y mudiad “yn hurt”.
“Fe gafodd y pwyllgor, yn gynharach yn y flwyddyn, ei ethol mewn ffordd ddemocrataidd ar-lein ac fel cadeirydd ar y pryd ro’n i’n falch bod gen i bwyllgor cynhwysol – a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o ferched a phobl nad oedd yn wyn,” meddai.
“Mae’r syniad bod unrhyw takeover yn hollol hurt.
“Rhaid derbyn pobl am bwy ydyn nhw – o ran iaith, plaid, lliw croen a rhywioldeb – mae’r hyn ry’n yn ei frwydro amdano yn annibyniaeth cynhwysol.”
Yr Alban
Gyda’r Alban wedi hen ddechrau meddwl eto am annibyniaeth a refferendwm arall dros y blynyddoedd diwethaf, a’r posibilrwydd y gallai Iwerddon ailuno, mae Siôn Jobbins yn rhybuddio bod rhaid i Gymru fod yn barod rhag iddi gael ei gadael ar ôl a chwympo i mewn i sefyllfa o ffederaliaeth, rhywbeth mae’r mudiad wedi’i wrthod hyd yn hyn.
“Mae eisiau i ni yng Nghymru gael pethau mewn trefn erbyn hynny,” meddai.
“Mae’r gwn wedi tanio.
“Beth bynnag ein barn am annibyniaeth, dwi ddim yn meddwl bod lot o bobol eisiau bod mewn Teyrnas Unedig sydd heb yr Alban a dwi’n credu na fydd Gogledd Iwerddon yn sefyll o gwmpas yn rhy hir.
“Mae nifer yn hoffi’r teimlad bod Cymru yn rhan o Brydain – Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon – dwi’n parchu hynna ac yn deall hynna ond mae hwnna i gyd yn mynd i gwympo pan fydd Yr Alban yn gadael ac yn fuan iawn efallai bydd Gogledd Iwerddon yn gadael hefyd.
“Mae cuddio tu ôl i soffa gan obeithio y bydd San Steffan yn rhoi briwsion i ni yn naïf tu hwnt.”