Mae’r Blaid Lafur yn cyhuddo Priti Patel o dorri’r cod gweinidogol, o fod yn “ddiofal” ac o fod yn “droseddwr ailadroddus” yn dilyn cyfarfod rhwng rhoddwr Torïaidd a British Airways.

Yn ôl y Sunday Mirror, fe wnaeth Priti Patel drefnu cyfarfod yng ngwesty Hilton Garden Inn ym maes awyr Heathrow ar Awst 11.

Surinder Arora, rhoddwr Torïaidd a sylfaenydd yr Arora Group, sy’n berchen y gwesty ac roedd e yn y cyfarfod gyda’i fab Sanjay, sy’n gyfarwyddwr strategaeth y cwmni, y prif swyddog ariannol Carlton Brown, prif weithredwr mesydd awyr Dubai Paul Griffiths, a chyfarwyddwr materion corfforaethol BA Lisa Tremble.

Mae lle i gredu bod Sean Doyle, prif weithredwr British Airways, wedi cael gwahoddiad ond nad oedd e’n gallu bod yno.

Er gwaetha’r criw mawr oedd yno, mae’r Sunday Mirror yn dweud nad oedd neb arall o’r Swyddfa Gartref yno, fel sy’n ofynnol yn ôl rheolau gwleidydol.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng dan y lach hefyd am fod yno heb aelod arall o’i staff, ac mae’r Sunday Mirror yn dweud ei fod e yno yn rhinwedd ei swydd fel aelod seneddol ardal gerllaw Heathrow.

Cyfarfod preifat?

Yn ôl llefarydd ar ran Priti Patel, bydd manylion pob cyfarfod “yn cael eu cyhoeddi yn y ffordd arferol yn unol â’r cod gweinidogol”.

Mae lle i gredu bod yr Ysgrifennydd Cartref yn teimlo ei fod yn gyfarfod preifat a bod manylion y cinio wedi cael ei ddatgelu gan ei swyddfa.

Bu’n rhaid i Priti Patel ymddiswyddo yn 2017 pan oedd hi’n Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, a hynny yn dilyn cyfarfodydd â swyddogion Israel nad oedden nhw wedi cael eu hawdurdodi.

Ymateb Llafur

“Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn droseddwr ailadroddus heb unrhyw ystyriaeth o’r cod gweinidogol,” meddai Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur.

“Mae’n bryd i’r prif weinidog dynnu ei cherdyn ‘gadael y carchar am ddim’ oddi arni.

“Byddai’r cinio lobïo cyfrinachol hwn yn torri’r rheolau dair gwaith a mwy.

“Mae ganddi gwestiynau difrifol i’w hateb a rhaid iddi wynebu ymchwiliad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar unwaith.

Mae Nick Thomas-Symonds, llefarydd materion cartref Llafur, hefyd wedi ymateb yn chwyrn i’r sefyllfa.

“Mae’r Ysgrifennydd Cartref mor ddiofal ynghylch ei dyletswyddau fel ei bod hi’n ymddangos ei bod hi’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd y tu ôl i ddrysau caëedig a heb swyddog yn bresennol,” meddai.

Ond mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi amddiffyn ei chydweithiwr, gan ddweud wrth Trevor Phillips on Sunday ar Sky ei bod hi’n “gwneud yn dda iawn” mewn “swydd anodd iawn”.