Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd modd i bobol sy’n teithio dramor o Gymru gael mwy o ddewis o ran profion Covid-19 o Fedi 21.

Dim ond profion drud y Gwasanaeth Iechyd sydd ar gael ar hyn o bryd, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig ond mae beirniadaeth fod y profion yn rhy ddrud ac yn rhoi pobol yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â phobol yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Bydd y drefn bresennol yn newid yr wythnos nesaf, wrth i reolau newydd ar reoleiddio profion teithio PCR preifat a chynllun gwirio ar hap ddod i rym a fydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn helpu “safonau ar gyfer profion preifat”.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobol sy’n dychwelyd o dramor gael profion PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl iddyn nhw ddychwelyd, ac ar yr wythfed diwrnod oni bai eu bod nhw wedi cael eu brechu, ac mae’r profion yn costio £68 yr un o’i gymharu â £50 yn Lloegr.

Roedd dirwy yn ei lle ar gyfer unrhyw un oedd yn defnyddio profion eraill ar wahân i rai’r Gwasanaeth Iechyd, ac roedd angen i bobol o Gymru ddilyn y drefn hyd yn oed os oedden nhw’n dychwelyd i Loegr ac nid yn syth i Gymru.

O blaid ac yn erbyn

Er i David TC Davies, yr aelod seneddol Ceidwadol, alw am ymchwiliad i’r annhegwch, roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru’n mynnu bod cadw at un prawf penodol yn gymorth i ddod o hyd i achosion ac amrywiolion yn gynt.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi wfftio honiadau nad oedd canlyniadau profion ar gael yn ddigon hawdd yng Nghymru, gan ei gwneud hi’n fwy anodd i olrhain pobol a allai fod wedi cael eu heintio ar eu gwyliau.

O ganlyniad i’r sefyllfa, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am dynhau’r rheolau ar gwmnïau preifat yn darparu profion.

“O ystyried y rheoliadau newydd a’r effaith ar safonau o ran profion preifat, byddwn ni’n gwneud newidiadau i’r rheolau i alluogi pobol sy’n teithio i Gymru archebu profion gyda darparwyr sector preifat, os ydyn nhw’n dymuno,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae’n bwysig cofio bod y coronafeirws gyda ni o hyd, a’n cyngor o hyd yw y dylai pobol osgoi pob taith ryngwladol nad yw’n hanfodol.”