Mae aelodau’r SNP wedi cymeradwyo bwriad y blaid i gynnal refferendwm annibyniaeth arall cyn gynted â phosib, ond nid cyn diwedd y pandemig Covid-19.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban ac arweinydd y blaid, eisoes yn dweud ei bod hi am weld ail refferendwm cyn diwedd 2023, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthwynebu’r syniad o gynnal pleidlais arall.

Ond mae aelodau’r SNP wedi cymeradwyo bwriad eu harweinydd, gan gefnogi cynnig o 535 o bleidleisiau i ddeg i gynnal pleidlais arall “cyn gynted ag y bo’n ddiogel i gynnal dadl genedlaethol fanwl, ddifrifol go iawn ar annibyniaeth”.

Mae’n nodi y dylai’r amserlen fod yn ddibynnol ar “feini prawf yn seiliedig ar ddata” ynghylch pryd y bydd y pandemig ar ben.

Yn ôl yr SNP, mae etholiadau diweddar Holyrood, lle enillodd y blaid 64 allan o 129 o seddi, yn dangos bod awydd “digamsyniol” am refferendwm arall.

Ymateb Llywodraeth yr Alban

Ar ôl i’r cynnig gael ei basio, dywedodd Angus Robertson, Ysgrifennydd Cyfansoddiad Llywodraeth yr Alban, fod yna “fandad democrataidd cadarn” tros gynnal refferendwm annibyniaeth arall.

“Dw i wrth fy modd fod y gynhadledd wedi cefnogi’r cynnig hwn bellach i basio’r Bil Refferendwm Drafft gan sicrhau y bydd dyfodol yr Alban yn cael ei roi yn nwylo’r Alban gyda refferendwm ar gyfer adferiad,” meddai.

“Rydym eisoes yn gweld cynlluniau ar gyfer toriadau Torïaidd wrth iddyn nhw dorri Credyd Cynhwysol a chynllunio i gynyddu Yswiriant Gwladol, gan dynnu oddi ar y rhai sydd fwyaf mewn angen.

“All yr Alban ddim fforddio degawd arall o lymder Torïaidd – rydym eisoes wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall toriadau ei chael ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas wrth i’r Torïaid adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer adferiad ar gefn y rhai tlotaf mewn cymdeithas.

“Mae hynny ar ben Brexit a’r niwed enfawr mae’n ei achosi o gael ei orfodi arnom gan Boris Johnson.

“Bydd annibyniaeth yn rhoi’r cyfle i ni ailymuno â marchnad sydd oddeutu saith gwaith yn fwy na’r Deyrnas Unedig, gyda’r holl gyfleoedd enfawr a ddaw yn ei sgil.

“Allwn ni ddim ymddiried yn y Torïaid i warchod dyfodol yr Alban.

“Dyna pam ei bod hi mor bwysig fod gan yr Alban ddewis i ddilyn llwybr gwahanol, gwell gydag annibyniaeth.”

Ar hyn o bryd, mae pôl gan y Sunday Times yn awgrymu y byddai 53% yn ffafrio pleidlais arall o fewn pum mlynedd, ond dim ond 17% sydd am weld pleidlais arall o fewn 12 mis.

Mae Scotland in Union, mudiad sydd o blaid y Deyrnas Unedig, yn galw ar yr SNP “i dreulio mwy o amser yn gwrando ar y wlad a llai o amser ar eu cefnogwyr”.

Alba eisiau dileu Trident ‘ar ddiwrnod cyntaf annibyniaeth’

Yn y cyfamser, mae aelodau plaid Alba wedi pleidleisio o blaid diddymu arfau niwclear Trident ar ddiwrnod cynta’r Alban yn wlad annibynnol.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Leigh Wilson, cynghorydd yn sir Aberdeen, ac fe siaradodd Tommy Sheridan, cyn-arweinydd Plaid Sosialaidd yr Alban, yn siarad o’i blaid.

Cafodd y cynnig ei basio o fwyafrif sylweddol wrth i’r blaid gynnal eu cynhadledd gyntaf.

Cafodd ymgais i ohirio’r penderfyniad ei wrthod, er bod rhai yn dadlau y gallai’r arfau niwclear fod yn arf fargeinio yn ystod trafodaethau am annibyniaeth a bod dileu arfau niwclear ar y diwrnod cyntaf posib yn afrealistig.

Roedd y cynnig yn awgrymu creu’r fferm wynt ynni adnewyddadwy fwyaf yn Ewrop ar safle’r llynges yn Faslane.