Mae dwy ddynes wedi datgan eu bwriad i sefyll i fod yn arlywydd benywaidd cyntaf Ffrainc.

Mae Marine Le Pen ac Anne Hidalgo wedi lansio’u hymgyrchoedd yn swyddogol.

Hidalgo yw Maer Paris ers 2014, a hi yw’r ffefryn i ennill enwebiad y Blaid Sosialaidd.

Aeth hi ati i lansio’i hymgyrch yn Llydaw.

Dechreuodd ymgyrch Le Pen, un o’r ffigurau mwyaf dadleuol yng ngwleidyddiaeth Ffrainc, yn ninas Frejus yn y de, wrth iddi addo cynnal “rhyddid” y wlad.

Jordan Bardella yw arweinydd dros dro’r blaid Rassemblement National tra bod Le Pen yn canolbwyntio ar ei hymgyrch.

Dydy’r Arlywydd Emmanuel Macron ddim wedi cadarnhau ei ymgeisyddiaeth eto, ond mae disgwyl iddo fe sefyll i gael ei ailethol.

Mae disgwyl i’r ras am yr arlywyddiaeth fod rhwng Macron a Le Pen, yn union fel yr oedd hi yn 2017.