Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050.

Mae’r nod yn golygu trawsnewid y system ynni’n gyflym er mwyn galluogi gwresogi cartrefi, trafnidiaeth a diwydiant i gael eu datgarboneiddio.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio â gweithredwyr rhwydweithiau trydan a nwy Cymru er mwyn sicrhau bod modd cynnal y gwaith hwn mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud fydd yn hanfodol erbyn 2030.

Maen nhw’n awyddus i sicrhau rhwydweithiau sy’n diwallu anghenion llefydd a phobol yn y dyfodol, gan gynnig y gwerth gorau i’r gymdeithas yn y tymor hir.

Mae Cymru’n anelu i fod y wlad gyntaf i fabwysiadu dull ar y cyd o ddatblygu ei rhwydweithiau nwy a thrydan.

Er mwyn gwneud hyn, mae Llywodraeth Cymru’n datblygu cynllun strategol i gynllunio ar gyfder dyfodol y grid ynni hyd at 2050, gyda’r gwaith hwn yn casglu ac asesu tystiolaeth, ystyried sefyllfaoedd a chynghori ar gamau tymor byr i’w cymryd ar unwaith.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod yr holl weithredwyr rhwydweithiau ynni yng Nghymru, ac Ofgem, wedi cytuno i weithio gyda ni i ddatblygu’r hyn a gredwn yw’r cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – cynllun integredig, hirdymor ar gyfer rhwydweithiau nwy a thrydan yng Nghymru,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 “Mae datblygu a chyflawni cynlluniau seilwaith yn broses hirdymor. Fodd bynnag, mae’r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni symud cyn gynted â phosibl.

“Mae angen inni wneud hyn yn iawn, gan y bydd yn newid unwaith mewn canrif i’n seilwaith.

“Wrth gwrs, bydd angen inni gynnwys pob sector yn y gwaith hwn, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud hyn wrth i’r gwaith ddatblygu.”

Cwmnïau ynni’n croesawu’r ymrwymiad

Mae nifer o gwmnïau ynni wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn sy’n arwain y diwydiant – sy’n hanfodol os ydym am gyrraedd sero-net a helpu cymunedau a diwydiant ledled Cymru i ddatgarboneiddio mewn ffordd sy’n ddibynadwy ac yn gynaliadwy,” meddai Sarah Williams, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Strategaeth Asedau Wales & West Utilities.

“Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod yr effaith ar filiau cwsmeriaid yn parhau i fod cyn lleied â phosibl, gan ddatgloi potensial nwy gwyrdd fel hydrogen a biomethan ochr yn ochr â thrydan adnewyddadwy.”

“Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n gweithredwyr rhwydwaith eraill i ddarparu rhwydwaith yn barod ar gyfer sero-net,” meddai Frank Mitchell, prif weithredwr SP Energy Networks.

“Dyna pam yr ydym am fuddsoddi dros £650m yn y rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru rhwng 2023 a 2028.

“Bydd hefyd yn cefnogi cannoedd o swyddi gwyrdd ac yn galluogi datgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth sy’n gwbl hanfodol i gyflawni targedau Cymru ar newid hinsawdd.”

“Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n gweithredwyr rhwydwaith eraill i ddarparu rhwydwaith yn barod ar gyfer sero-net,” meddai Sean Sullivan, Rheolwr Gwasanaethau Rhwydwaith De Cymru Western Power Distribution.

“Dyna pam yr ydym am fuddsoddi dros £650 miliwn yn y rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru rhwng 2023 a 2028. Bydd hefyd yn cefnogi cannoedd o swyddi gwyrdd ac yn galluogi datgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth sy’n gwbl hanfodol i gyflawni targedau Cymru ar newid hinsawdd.”