Mae Gogledd Corea yn honni iddyn nhw brofi taflegrau pellter hir dros y penwythnos, a hynny am y tro cyntaf ers misoedd.

Mae’r datblygiad diweddaraf yn arwydd o allu’r lluoedd arfog ac o’u bwriad i ehangu ar ôl i drafodaethau â’r Unol Daleithiau ynghylch arfau niwclear ddirwyn i ben.

Mae lle i gredu bod y taflegrau newydd wedi bod yn cael eu datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a’u bod nhw bellach wedi bwrw targedau 932 o filltiroedd i ffwrdd yn ystod profion ddydd Sadwrn (Medi 11) a ddoe (dydd Sul, Medi 12), a’u bod nhw wedi bod yn yr awyr am 126 o funudau.

Yn ôl Gogledd Corea, mae’r taflegrau newydd yn “arf strategol o arwyddocâd mawr” sy’n bodloni galwadau’r arweinydd Kim Jong Un i gryfhau gallu lluoedd arfog y wlad.

Dywed De Corea eu bod nhw’n asesu’r datblygiad diweddaraf yn seiliedig ar eu cudd-wybodaeth eu hunain a’r Unol Daleithiau.

Trafodaethau aflwyddiannus

Yn ystod cynhadledd fis Ionawr, dywedodd Kim Jong Un unwaith eto y byddai’n cryfhau arfau niwclear Gogledd Corea yn wyneb sancsiynau’r Unol Daleithiau.

Bryd hynny, cyhoeddodd e restr o’r arfau y byddai’n dymuno i’r wlad eu cael, gan gynnwys taflegrau a fyddai’n gallu teithio cryn bellter, llongau tanfor wedi’u pweru gan ynni niwclear, lloerennau ac arfau niwclear tactegol.

Daeth trafodaethau â’r Unol Daleithiau i ben yn y cyfnod ers i Kim Jong Un gyfarfod â’r cyn-Arlywydd Donald Trump yn 2019, pan wrthododd yr Unol Daleithiau â llacio’r sancsiynau yn gyfnewid am ildio arfau niwclear.

Mae gweinyddiaeth Kim Jong Un bellach yn gwrthod gwahoddiadau gweinyddiaeth yr Arlywydd Joe Biden i gynnal trafodaethau, gan fynnu bod Washington yn cefnu ar bolisïau “atgas”.

Daeth blwyddyn o seibiant o brofion taflegrau yng Ngogledd Corea i ben fis Mawrth eleni, a hynny mewn ymgais i gorddi’r Unol Daleithiau ac i fesur eu hymateb.

Ond mae lle i gredu na fu unrhyw brofion ers hynny wrth i Ogledd Corea ymdrin â Covid-19 a cheisio gwella’r economi.