Mae cyn-gyfieithydd a gafodd ei arteithio gan y Taliban wrth weithio i luoedd Prydain yn Affganistan yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’w helpu i achub ei deulu.

Mae Mohamad, sy’n byw yng Nghasnewydd, yn poeni am ddiogelwch ei fam, ei wraig, ei frodyr a’i chwiorydd sy’n cuddio yn Affganistan ar hyn o bryd.

Cafodd ei dad ei ladd gan y Taliban dair blynedd yn ôl, a dydi Mohamad heb weld ei deulu ers mis Rhagfyr 2019 yn sgil y bygythiadau i’w fywyd a’r pandemig.

Cyrhaeddodd Mohamad, sydd yn ei 30au cynnar, y Deyrnas Unedig yn 2015, ac mae’n ddinesydd Prydeinig ers hynny ac yn byw a gweithio yng Nghasnewydd.

Yn 2009, bu’n gweithio gyda Lluoedd Arbennig America yn nhalaith Kandahar, cyn ymuno â’r lluoedd Prydeinig fel cyfieithydd patrol a chynghorydd diwylliannol yn 2011.

Curo a bygwth lladd

Yn ôl Mohamad, fe wnaeth y Taliban ei ddal am chwe wythnos yn 2014, ei guro a bygwth ei ladd oherwydd ei fod e’n gweithio gyda Phrydain.

“[Roedden nhw’n meddwl] bod gen i lot o wybodaeth… dywedais wrthyn nhw: ‘Dw i ond yn gyfieithydd, dw i ddim yn ddyn pwysig,” meddai Mohamad wrth wasanaeth newyddion y Press Association.

“Fe wnaeth y Taliban dorri fy nghlust chwith a gyrru fideo i fy mam a ’nhad.

“Roedd mam mewn sioc, roedd hi yn yr ysbyty am ychydig o ddiwrnod oherwydd y gwaed oedd dros fy wyneb.”

Gofynnodd y Taliban wrth dad Mohamad, a oedd yn gyfieithydd gyda Lluoedd Arfog Prydain hefyd, am swm mawr o arian i atal ei fab rhag cael ei ladd, ond doedd y teulu methu fforddio hynny.

Cafodd Mohamad ei ryddhau yn y pen draw, a llwyddodd i ddianc o Affganistan.

Fe wnaeth gais am fisa i’w bartner drwy raglen y Deyrnas Unedig i wŷr a gwragedd cyfieithwyr o Affganistan, ond roedd rhaid iddo ddianc cyn gallu priodi.

“Dywedodd dad wrtha i: ‘Paid ag aros, does gennym ni ddim amser am y briodas,’” meddai.

“Gadawa’r wlad. Fe wnawn ni sortio hynny’r tro nesaf ti yma.”

Teimlo’n anobeithiol

Ers hynny, mae Mohamad wedi priodi ei wraig, ac mae’n trio ei helpu hi i ddod i’r Deyrnas Unedig ers saith mlynedd, ond cafodd ei fisa ei wrthod.

Cafodd ei fisa ei gymeradwyo o’r diwedd ganol Awst, ond doedd hi ddim yn gallu gadael Affganistan oherwydd bod y Taliban wedi cipio grym.

“Fe wnes i dderbyn e-bost gan y tîm gwacáu yn Kabul yn dweud ‘dylai dy wraig ddod i’r maes awyr’,” eglurodd.

“Pan gyrhaeddodd fy nheulu’r maes awyr, roedd yna dorf anferth o bobol tu allan i’r Baron Hotel.

“Arhosodd tu allan i’r gwesty am chwe diwrnod, ond yn anffodus doedd hi methu mynd mewn i’r maes awyr.”

Dywed Mohamad fod ei wraig wedi mynd yn anymwybodol ddwywaith oherwydd y gwres, a bod ei thraed hi’n gwaedu yn sgil gorfod sefyll yng nghanol torf fawr.

Mae e wedi bod yn apelio am gymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddechrau’r broses adleoli iddi hi a’i deulu cyn gynted â phosib, yn sgil ofnau am eu hiechyd.

“Mae fy nheulu yn meddwl ’mod i’n gwastraffu fy amser a dw i’n dweud wrthyn nhw: ‘Un diwrnod fe wnaf i ddod, mae’r Llywodraeth yn gweithio’,” meddai.

“Maen nhw’n meddwl fy mod i’n dweud celwydd.”

Dywed Mohamad ei fod e’n teimlo’n anobeithiol, ac yn ystyried teithio i Affganistan ei hun er gwaetha’r peryglon.

“Roeddwn i’n meddwl ddoe y dylwn i gerdded ar droed o wledydd eraill i Affganistan.”

“Gweithio’n ddiflino”

“Yn ystod Ymgyrch Pitting fe wnaethon ni weithio’n ddiflino i helpu cynifer o bobol â phosib i adael Affganistan yn ddiogel, gan hedfan dros 15,000 o bobol o Kabul gan gynnwys miloedd o ymgeiswyr Arap (Polisi Helpu ac Adleoli Affganiaid) a’u dibynyddion,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Byddwn ni’n parhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi’r rhai sydd wedi’n cefnogi ni, a does dim terfyn amser ar ein hymrwymiad tuag at y rhai sy’n gymwys i adleoli.

“Mae’r rhaglen Arap yn dal ar agor i ymgeiswyr a byddwn ni’n parhau i gefnogi’r rhai sy’n gymwys.”