Mae’r Almaen yn paratoi i ethol Canghellor newydd, wrth i gyfnod Angela Merkel wrth y llyw ddirwyn i ben.

Mae tri ymgeisydd yn y ras, ond dydy hi ddim yn un ohonyn nhw, y tro cyntaf i ddeilydd presennol y swydd beidio ailsefyll mewn etholiad ers 1949.

Dyma’r tro cyntaf erioed i dri ymgeisydd sefyll, wrth i’r Gwyrddion gyflwyno ymgeisydd ochr yn ochr â dwy brif blaid y wlad.

Daeth cadarnhad gan Merkel dair blynedd yn ôl na fyddai hi’n mynd am bumed tymor wrth y llyw.

Olaf Scholz yw ymgeisydd y Democratiaid Sosialaidd, tra bod y Gwyrddion wedi dewis Annalena Baerbock.

Armin Laschet yw ymgeisydd plaid Undeb Merkel.

Yr ymgeiswyr

Olaf Scholz

Olaf Scholz, 63, yw gweinidog cyllid a dirprwy Ganghellor yr Almaen ar hyn o bryd.

Mae ganddo fe ddull uniongyrchol, di-drugaredd sy’n nodweddiadol o drigolion Hamburg, lle bu unwaith yn gyfreithiwr.

Mae e’n hunanhyderus ond mae ganddo fe enw drwg am ailadrodd yr un ymadroddion dipyn wrth ateb cwestiynau, sydd wedi arwain at y ffug enw ‘Scholzomat’

Bu’n ysgrifennydd cyffredinol ei blaid ar ddechrau’r 2000au pan oedd y Canghellor Gerhard Schroeder dan y lach am doriadau i’r wladwriaeth les a diwygiadau economaidd.

Bu’n aelod o gabinet Angela Merkel rhwng 2007 a 2009 yn ystod y dirwasgiad economaidd byd-eang cyn dod yn Faer Hamburg yn 2011.

Cafodd ei benodi’n ddirprwy Ganghellor yn 2018 ar ôl i’w blaid gefnu ar addewid i fod yn wrthblaid, ac mae ei bolisïau economaidd wedi ennyn ymateb cymysg.

Collodd e’r ras i arwain ei blaid yn 2019.

Annalena Baerbock

Annalena Baerbock yw’r ymgeisydd ieuengaf yn y ras, a hithau’n 40 oed, ac mae hi’n ei chyflwyno’i hun fel yr ymgeisydd tros newidiadau a datblygiadau.

Astudiodd hi’r gwyddorau gwleidyddol a chyfraith ryngwladol yn y brifysgol yn Hamburg a Llundain, a bu’n aelod o senedd yr Almaen ers 2013.

Bu’n gyd-arweinydd y Gwyrddion gyda Robert Habeck ers 2018, ac maen nhw wedi llwyddo i atal hollti’r blaid ac wedi ei gwneud hi’n fwy deniadol i bleidleiswyr.

A hithau’n hanu o orllewin yr Almaen, mae hi wedi ymsefydlu ers tro yn Brandenburg.

Roedd hi dan y lach yn gynnar yn yr ymgyrch eleni, gan orfod cywiro nifer o fanylion yn ei CV a datgan cyfres o daliadau gan ei phlaid roedd hi’n mynnu nad oedd hi’n gwybod fod rhaid iddi eu datgan i’r awdurdodau seneddol.

Mae hi hefyd wedi bod dan y lach am lên-ladrad wrth gyhoeddi llyfr newydd, gan gydnabod y dylai fod wedi rhestru ei ffynonellau ond mae hi’n mynnu nad oedd bwriad ganddi gopïo gwaith rhywun arall.

Armin Laschet

Bu Armin Laschet yn llywodraethwr Nordrhein-Westfalen, talaith fwyaf poblog yr Almaen, ers 2017 ac mae ei gefnogwyr yn dweud bod y fuddugoliaeth honno’n dangos ei allu gwleidyddol.

Yn fab i löwr, mae’r dyn 60 oed yn dal i fyw yn ninas Aachen lle cafodd ei fagu ar y ffin â Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, magwraeth sy’n ei wneud yn Ewropeaidd, meddai.

Bu sawl llanw a thrai yn ei yrfa wleidyddol ers iddo ymuno â Senedd yr Almaen yn 1994, wrth iddo golli ei sedd yn 1998.

Rhwng 1999 a 2005, roedd yn aelod o Senedd Ewrop cyn dod yn weinidog mewnfudwyr ei dalaith, y tro cyntaf i’r fath swydd gael ei chreu yn y wlad.

Daeth yn arweinydd ei blaid ar yr ail gynnig yn 2012.

Mae e yn y tir canol yn wleidyddol, yn debyg i Angela Merkel, ac mae e wedi ei chanmol am ei hagwedd at fewnfudwyr a ffoaduriaid, ond mae e’n fwy brwd na hi tros lacio cyfyngiadau Covid-19.

Daeth yn arweinydd ei blaid fis Ionawr, gan guro Friedrich Merz mewn ras a gafodd ei gohirio sawl gwaith oherwydd y pandemig ac ym mis Ebrill, fe wnaeth e guro Markus Soeder i’r enwebiad er bod hwnnw i’w weld yn fwy poblogaidd ymhlith pleidleiswyr.

Mae e’n adnabyddus am ei synnwyr digrifwch a’i bersonoliaeth gynnes, ond mae e wedi’i gael ei hun mewn dŵr poeth o ganlyniad, nid lleiaf wrth chwerthin yn y cefndir pan oedd Arlywydd yr Almaen yn gnweud anerchiad yn dilyn llifogydd.