Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru’n awgrymu y gallai cyflwyno pasbortau brechu ar gyfer clybiau nos annog mwy o bobol ifanc i gael brechlyn Covid-19.
Dywedodd Eluned Morgan wrth raglen BBC Politics Wales fod gan weinidogion y llywodraeth benderfyniad “anodd iawn” i’w wneud yn y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl penderfyniad erbyn diwedd yr wythnos ynghylch a ddylid gwneud pasbortau brechu yn orfodol er mwyn cael mynediad i rai llefydd neu ddigwyddiadau.
Bydd pasbortau yn cael eu cyflwyno yn yr Alban o Hydref 1 ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr eraill, ond mae cynllun tebyg yn Lloegr wedi’i ddileu.
‘Materion ymarferol a moesegol’
“Mae’n rhaid i ni ystyried llawer o faterion ymarferol a moesegol ynghylch pasbortau brechu,” meddai Eluned Morgan.
Gallai cyflwyno pasbortau ar gyfer cael mynediad i glybiau nos, er enghraifft, helpu i annog mwy o bobol i gael eu brechu.
Mae pedwar rhan o bump o bobol ifanc 16 i 39 oed wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, ond mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gynyddu’r niferoedd.
“Rydyn ni’n gwybod fod cyfraddau [achosion Covid-19] yn anhygoel o uchel ar hyn o bryd ymhlith pobol ifanc ac felly dyna pam rydyn ni’n awyddus iawn i godi’r niferoedd hynny i fyny,” meddai Eluned Morgan.
Ddydd Gwener (10 Medi), dywedodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, fod nifer o faterion cymhleth i’w trafod wrth ystyried cyflwyno pasbort brechu.
Byddai’n “anghyfrifol” peidio ystyried a ddylid eu cyflwyno, meddai, ond pwysleisiodd na fydd angen pasbort ar gyfer defnyddio gwasanaethau cyhoeddus nac ar gyfer mynediad i lefydd lle mae’n rhaid i rywun fynd iddyn nhw.
Dim ond ar gyfer llefydd lle mae pobol yn mynd o’u gwirfodd y bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried a oes angen cyflwyno pasbort brechu.