Mae dyn 33 oed yn yr ysbyty ag anafiadau i’w ben yn dilyn ymosodiad ym Mhorthcawl ddoe (dydd Sul, Medi 12).
Cafodd Heddlu’r De eu galw i Bromenâd y Dwyrain tua 3:20yb, ond mae lle i gredu y gallai’r ymosodiad fod wedi digwydd tipyn cyn hynny.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion a welodd yr ymosodiad tu allan i The Beachcomber, sy’n cael ei adnabod fel y Cabin Bar hefyd.
Mae’r dyn lleol gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi’r digwyddiad mewn cyflwr difrifol.
Yn ôl yr heddlu, mae dyn lleol arall, sy’n 39 oed, wedi’i arestio ar amheuaeth o ffrwgwd.
Apelio am wybodaeth
Ar hyn o bryd, mae’r heddlu’n astudio lluniau camerâu cylch-cyfyng, ac maen nhw’n disgwyl arestio mwy o bobol.
“Mae hon yn ardal ddiogel ac ni fydd y fath ymddygiad treisgar yn cael ei oddef,” meddai’r Ditectif Arolygydd Jason McGill.
“Mae swyddogion yn parhau gydag ymholiadau eang ynghylch amgylchiadau’r digwyddiad ac rydyn ni’n apelio am wybodaeth.
“Yn benodol, hoffwn glywed gan unrhyw un welodd gwffio rhwng dau grŵp o ddynion ar Bromenâd y Dwyrain rhwng 2yb a 3:30yb.
“I unrhyw un sy’n ymweld â Phorthcawl, sydd ddim yn gyfarwydd â’r ardal, Promenâd y Dwyrain yw’r ffordd ar ochr Traeth Coney a’r ffair.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.