Rhaid trechu Covid-19 cyn meddwl am gynnal refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban, yn ôl John Swinney, dirprwy brif weinidog y wlad.

Fe fu’n siarad â rhaglen ‘Today’ ar Radio 4, gan ddweud y bydd amseru’r refferendwm yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus yw ymdrechion y llywodraeth i reoli’r pandemig.

“Byddwn ni’n gwybod ei fod e ar ben o weld graddau llwyddo i dawelu’r feirws yn llwyddiannus, a’n bod ni’n gallu gweithredu heb fod cyfyngiadau yn eu lle,” meddai.

“Yn ei hanfod, ein bod ni wedi llwyddo i roi gwarchodaeth ddigonol yn ei lle i bobol a’n cymdeithas rhag presenoldeb y feirws.

“Nawr, dydyn ni’n amlwg ddim yn y sefyllfa honno oherwydd bod gennym ni gyfraddau arbennig o uchel o’r feirws er bod gennym ni raglen frechu lwyddiannus ac effeithiol iawn.

“Ond rydyn ni’n optimistaidd po fwyaf mae’r rhaglen frechu’n parhau, mwya y byddwn ni’n cymryd y camau rydyn ni’n eu cymryd, a byddwn ni’n cael ein hunain mewn sefyllfa lle gallwn ni weld yn gyfiawn fod y pandemig Covid dan reolaeth, a gallwn ni gael refferendwm wedyn.”

Cyfraddau’r feirws

Mae mwy na 1,000 o gleifion yn yr ysbyty â Covid-19 yn yr Alban, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Mae hynny’n gynnydd o 34 mewn un diwrnod, y nawfed cynnydd dyddiol o’r bron.

Mae 88 o gleifion mewn unedau gofal dwys, sy’n gynnydd dyddiol o bump.

Roedd 5,912 o achosion dyddiol newydd hyd at ddoe (dydd Sul, Medi 12), ond dim marwolaethau newydd.

11.5% yw’r gyfradd ddiweddaraf o achosion positif, i fyny mewn diwrnod o 10.9%.

Mae 4,140,616 o bobol wedi cael un dos o frechlyn Covid-19, tra bod 3,777,461 wedi cael ail ddos hefyd.