Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig eglurder i deuluoedd, gweithwyr a busnesau ynghylch a fydd pasbort brechu’n cael ei gyflwyno yng Nghymru.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad erbyn diwedd yr wythnos, ar ôl i Lywodraeth Prydain benderfynu cefnu ar y syniad yn Lloegr, ond fe fyddan nhw’n cael eu cyflwyno yn yr Alban.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad i gyflwyno’r fath drefn yng Nghymru.

Maen nhw eisoes ar gael ar gyfer pobol sy’n teithio dramor, ond mae ansicrwydd o hyd ynghylch a ddylid eu cyflwyno o fewn y wlad at ddibenion cael mynediad i leoliadau sy’n denu torfeydd, megis clybiau nos a stadiymau.

‘Draconaidd’

Yn ôl Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mae pasbortau brechu’n “ddraconaidd”.

“Nid yn unig mai Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig na fydd yn cael ymchwiliad Covid, ond hi hefyd yw’r unig ran sydd heb eto gael clywed a fydd yn destun pasbortau brechu draconaidd, gan gyfyngu ymhellach ar ryddid dinasyddion a niweidio gallu busnesau i weithredu’n effeithlon,” meddai.

“Dros y 18 mis diwethaf, mae gweinidogion Llafur wedi bod ar ei hôl hi o hyd, ac mae’n bryd iddyn nhw fod yn onest nawr ynghylch eu cynlluniau ar gyfer pasbortau brechu yng Nghymru gan na ddylen nhw gael cyflwyno hyn yn sydyn i gwsmeriaid a busnesau heb fawr ddim rhybudd.

“Dw i hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, pe baen nhw’n dewis eu cyflwyno, fod y cynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer pleidlais yn y Senedd cyn unrhyw gyflwyno arfaethedig a bod y manylion llawn yn cael eu rhoi i aelodau.

“Bydd diddordeb gennym oll hefyd i weld a yw’r prif weinidog a Syr Keir Starmer ar yr un dudalen pan ddaw i basportau brechu.”

Ategu’r alwad

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi beirniadu pasbortau brechu, gan alw ar y prif weinidog i gadarnhau na fyddan nhw’n cael eu cyflwyno yng Nghymru.

“Er fy mod yn deall fod nifer o bobol eisiau dychwelyd i synnwyr o normalrwydd, mae angen i ni fod yn ofalus ynghylch y cynsail maen nhw’n ei osod,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru.

“Mae cerdyn adnabod brechu yn amlwg iawn yn mynd yn groes i hawl dinesydd i breifatrwydd ac yn arwydd fod y llywodraeth yn mynd yn rhy bell.

“Pe bai’r system yn cael ei chyflwyno yng Nghymru, dyma fyddai’r tro cyntaf i ddinasyddion gael cais i ddarparu data meddygol preifat i ddieithryn nad yw’n glinigwr os ydyn nhw am fwynhau mynediad at leoliadau a gwasanaethau yn ein cymdeithas.

“Byddai pasbortau brechu hefyd yn niweidio busnesau.

“Byddai pobol sy’n rhedeg tafarnau, clybiau a digwyddiadau mawr sydd eisoes yn gweithio’n galed i ailadeiladu busnesau wedi’r pandemig yn teimlo ergyd fwyaf pasbortau COVID.

“Mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu i wfftio’r mesur hwn nad yw’n rhyddfrydol ac nad yw’n dilyn cyfeiriad yr SNP yn yr Alban.

“Pe bai’r fath gam yn cael ei gymryd, ni fyddai’n cael cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.”

 

Penderfyniad “anodd iawn” i’w wneud yn y dyddiau nesaf ynghylch pasbortau brechu

Ysgrifennydd Iechyd Cymru’n awgrymu y gallai cyflwyno pasbortau ar gyfer clybiau nos annog pobol ifanc i gael eu brechu