Mae swyddogion olrhain cysylltiadau yn dweud bod llai o bobol yn ymateb yn ffafriol i geisiadau i hunanynysu neu i gael prawf Covid-19 erbyn hyn.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r cyhoedd wedi “cael llond bol” o’r pandemig, sy’n golygu bod llawer o bobol yn gwrthod ceisiadau o’r fath.

Fe gafodd gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu ei lansio gan Lywodraeth Cymru i leihau lledaeniad Covid-19 drwy wirio cysylltiadau unigolion sydd wedi cael canlyniad prawf positif.

Erbyn hyn, dydy’r rheiny sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ddim yn gorfod hunanynysu os ydyn nhw wedi cael dau ddos o’r brechlyn nac yn dangos unrhyw symptomau.

Er hynny, maen nhw’n parhau i gael eu hannog i gael prawf PCR, a hunanynysu os ydyn nhw’n cael canlyniad positif.

Fe gafodd Cabinet Cyngor Gwynedd wybod gan swyddogion olrhain cysylltiadau fod llai o bobol yn ymateb i geisiadau ac yn dilyn cyngor swyddogion.

Mae Cyngor Wrecsam hefyd wedi gwneud honiadau tebyg, gan ychwanegu bod rhai unigolion wedi methu deall canllawiau newydd ac wedi peidio hunanynysu ar ôl profi’n bositif am Covid-19.

“Llond bol”

Fe drafododd cabinet Cyngor Gwynedd y canfyddiadau newydd mewn cyfarfod diweddar.

“Ar y dechrau, roedden ni’n hyfforddi staff ac yn cael pobol yn eu lle,” meddai Dafydd Williams, pennaeth Adran Reoleiddio’r Cyngor.

“Roedd trigolion y sir ar y cyfan yn croesawu’r cyswllt hwnnw, a’n teimlo ein bod ni’n eu hamddiffyn nhw.

“Erbyn hyn, mae ein cymunedau wedi cael llond bol ar y pandemig a dydy’r ymateb i’r rhai sy’n olrhain ddim yn gadarnhaol a dydy pobl ddim eisiau’r alwad ac ati.

“Felly mae pethau wedi newid, mae’r canllawiau wedi newid wrth i faterion ddatblygu ac ar hyn o bryd rydyn ni’n gweld nifer yr achosion yn uchel iawn, felly mae nifer y cysylltiadau ar gyfer pob achos hefyd yn uchel iawn yn ddiweddar.

“Mae llawer o waith i’w wneud o hyd ac mae yna lawer o bobl yn ein cymunedau yn dal heb eu brechu, dydy’r brechlyn ddim yn amddiffyn pawb ac mae rhai pobol yn mynd yn sâl iawn.”

Canllawiau presennol

Mae’r canllawiau presennol yn dweud y dylai pawb sy’n datblygu unrhyw symptomau Covid-19 hunanynysu a threfnu prawf PCR, waeth bynnag beth yw eu hoedran neu eu statws brechu.

Ar hyn o bryd, mae cyllid ar gyfer y gwasanaeth olrhain yn ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.