Mae Llywodraeth Cymru wedi agor y broses recriwtio ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd y Llywydd newydd yn dechrau fis Ionawr y flwyddyn nesaf, ac mae Ashok Ahir, Llywydd a Chadeirydd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol, wedi’i benodi’n Llywydd Dros Dro yn y cyfamser.

Rhoddodd Meri Huws y gorau i’w swyddi fel Llywydd dros dro, Is-lywydd am Ymddiriedolwr y Llyfrgell ddechrau mis Awst.

Fe fydd y Llywydd newydd yn ymuno â’r Llyfrgell yn ystod cyfnod o newid, wrth i’r cynllun strategol pum mlynedd ar gyfer 2021-26 gael ei roi ar waith.

Dros y cyfnod hwnnw, bydd sylw yn cael ei roi i ganfyddiadau’r adolygiad wedi’i deilwra a gafodd ei gynnal y llynedd hefyd.

Mae’r Llywydd yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac mae’n gyfrifol am berfformiad y Llyfrgell Genedlaethol ac am gyflawni blaenoriaethau strategol.

‘Caffaeliad gwerthfawr’

Mae Ashok Ahir yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru, ac yn arbenigwr mewn llywodraethu, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau.

Ynghyd â hynny, mae’n aelod o bwyllgorau cynghorol British Council Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru.

Wrth groesawu ei benodiad dros dro, dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, ei fod yn “gaffaeliad gwerthfawr” i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Hoffwn i ddiolch iddo fe am gytuno i gyflawni’r rôl wrth inni recriwtio Llywydd newydd,” meddai.

“Hoffwn i ddiolch hefyd i Meri Huws am ei hymrwymiad fel Llywydd dros dro. Yn ystod ei chyfnod yn y rôl mae Meri wedi bod yn ffrind, eiriolwr a hyrwyddwr y Llyfrgell yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad.

“Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a’n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb at ddibenion dysgu, ymchwilio a mwynhau – ac rydyn ni’n chwilio am unigolyn eithriadol sy’n gallu gwella cyrhaeddiad, dylanwad ac effaith y Llyfrgell yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”

Mae siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer y swydd, a rhaid i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad clir i Gymru ddwyieithog.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Hydref 13, ac mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio Is-lywydd i’r Llyfrgell hefyd.