Mae cynlluniau ar y gweill i agor canolfan ffermio carbon niwtral gwerth £15 miliwn yn y gogledd, fyddai yn helpu ffermwyr i arallgyfeirio.

Bydd yn cael ei godi ar safle Coleg Cambria Llysfasi ger Rhuthun, pe bai’n mynd yn ei flaen.

Dros 15 mlynedd, mae’r coleg eisiau datblygu technolegau amaethyddol arloesol i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd a helpu i arallgyfeirio economi cefn gwlad.

Mae’r datblygwyr yn honni y byddai’n helpu’r wlad i gyrraedd ei thargedau sero-net.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyrraedd y targedau hynny erbyn 2050, tra bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn credu gall y diwydiant ffermio fod yn garbon niwtral erbyn 2040.

Mae’r rhai sydd tu ôl y cynllun bellach yn ceisio cael cefnogaeth ffermwyr lleol a chyfranddalwyr ar draws yr ardal.

“Awch i wneud y newidiadau”

Dywed George Fisher, rheolwr y prosiect, ei fod yn gobeithio bydd y gwaith yn dechrau erbyn blwyddyn nesaf.

“Mae yna awch i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyrraedd y targedau hyn i wella effeithlonrwydd, a fydd yn ei dro yn gwella elw a modelau busnes,” meddai.

“Y brif her yw cymhlethdod y prosiect ac argyhoeddi gwahanol sefydliadau ac unigolion ei fod yn fanteisiol, ond eisoes rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol iawn ac yn gwneud cynnydd.

“Y bwriad yw dechrau’r gwaith y flwyddyn nesaf a bod yn barod i fynd ym mis Medi 2023, ac rydyn ni ar y trywydd iawn ar gyfer hynny.

“Bydd trafodaethau a chysylltiadau yn parhau i gael eu creu trwy gydol 2021 – gobeithio wyneb yn wyneb wrth i gyfyngiadau Covid leddfu – a gallwn wneud hyd yn oed mwy o gynnydd erbyn 2022.”