Mae delweddau newydd yn dangos graddfa’r cynlluniau ar gyfer rhaglen fetro “uchelgeisiol” yn y gogledd.
Dangosa’r delweddau’r blaenoriaethau hyd at 2029, sy’n cynnwys gwelliannau mawr mewn gorsafoedd poblogaidd, creu gorsafoedd newydd a sicrhau trenau amlach rhwng Bangor a Wrecsam.
Mae’r cynlluniau hefyd yn dangos prosiectau “mwy uchelgeisiol, hirdymor” gan gynnwys trydaneiddio o Gaergybi i Gaer, a chyflwyno estyniadau i’r rhwydwaith i orllewin Cymru ac i ogledd Ynys Môn.
Wrth ymweld â Gorsaf Gyffredinol Wrecsam heddiw (10 Medi), dysgodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Cymru dros Newid Hinsawdd, fwy am y prosiectau fydd yn elwa o’r cynlluniau.
Cafodd £9 miliwn ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i Drafnidiaeth Cymru yn ddiweddar, yn rhan o £50 miliwn sydd wedi’i ddarparu ers 2020.
Mae’r prosiectau a fydd yn elwa o’r cyllid eleni yn cynnwys:
- £4.8 miliwn ar gyfer gwelliannau i fysiau gan gynnwys sgriniau gwybodaeth ar draws rhwydwaith Traws Cymru, adnewyddu gorsaf fysiau Bangor, a chynlluniau fflecsi newydd.
- £2.7 miliwn ar gyfer gwelliannau mewn gorsafoedd trên gan gynnwys Wrecsam, a gwella hygyrchedd.
- Mwy na £1 miliwn i edrych ar wella cysylltedd rhwng Wrecsam a Lerpwl.
- Dros £1 miliwn ar gyfer Strategaeth Drafnidiaeth Eryri sy’n ceisio annog parcio a theithio, teithio ar fysiau a theithio llesol o fewn y Parc Cenedlaethol.
- £1.5 miliwn i ddatblygu gorsaf integredig yn Shotton.
- £670,000 tuag at ddatblygu Parkway Glannau Dyfrdwy.
- £900,000 tuag at astudiaeth o brif rwydwaith arfordir y gogledd, gyda’r bwriad o wella amseroedd teithio.
- £250,000 i gefnogi’r gwaith o gyflwyno tocynnau integredig ar fysiau.
“Mwy cyfforddus, hygyrch a gwyrddach”
Dywedodd Lee Waters bod y sylfeini wedi’u sefydlu ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau trawsnewidiol a theithio llesol.
“Ochr yn ochr â lleihau unigedd gwledig a gwella cyfleoedd gwaith, busnes a hamdden ledled gogledd Cymru, bydd y cynlluniau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu economi ehangach y
rhanbarth,” meddai Lee Waters.
“Bydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn newid y ffordd rydym yn teithio drwy greu rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a beicio a cherdded modern, cynaliadwy, a chreu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a hamdden tra’n lleihau effaith amgylcheddol.
“Byddant hefyd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni blaenoriaethau ac amcanion ein strategaeth drafnidiaeth newydd uchelgeisiol, Y Llwybr Newydd a’n helpu i gyrraedd ein targed o wneud 45% o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol erbyn 2040, gan helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, allyriadau carbon a llygredd aer,” ychwanegodd.
“Cyn bo hir, gall pobl ledled Cymru ddisgwyl rhwydwaith o lwybrau a chyfnewidfeydd sy’n cynnig gwasanaethau cyflymach, amlach a dibynadwy ar gerbydau mwy cyfforddus, hygyrch a gwyrddach.
“Fodd bynnag, allwn ni ddim cyflawni ein huchelgeisiau cyffredin i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd heb gefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r rhaglenni hyn lle mae teithwyr yn dibynnu’n drwm ar welliannau ar seilwaith Network Rail.”