Mae Aelod Seneddol Llafur Ogwr wedi dweud wrth golwg360 fod cael strategaeth newydd ar gyfer sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus dda yn “hanfodol i leddfu problemau” mannau twristaidd poblogaidd.
Does gan wyth o bob deg person sy’n defnyddio bysiau yng Nghymru ddim opsiwn arall ar gyfer teithio, ac mae’r mater yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, cyfiawnder hinsawdd, a lleihau’r effaith ar newid yr hinsawdd.
Ar hyn o bryd, does gan awdurdodau ddim digon o reolaeth dros wasanaethau bysiau lleol, meddai Huw Irranca-Davies, ac mae hi’n bryd “democrateiddio” y system fel eu bod nhw’n cyd-fynd ag anghenion pobol leol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo deddf a fyddai’n dadwneud diwygiadau a gafodd eu cyflwyno yn yr 80au i breifateiddio a dadreoleiddio darpariaeth bysiau, ac maen nhw wedi addo amserlen erbyn diwedd y flwyddyn yn eu strategaeth ar gyfer bysiau.
“Democrateiddio”
“Mae’n bwysig cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus ochr yn ochr â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus,” meddai Huw Irranca-Davies wrth golwg360.
“Gyda’n system bresennol, does gennym ni ddim digon o reolaeth dros wasanaethau bysiau lleol ac mae angen i ni ddod â hynny o dan reolaeth pobol leol a chynghorau lleol.
“Byddai hynny’n ein galluogi ni i gynllunio trafnidiaeth a gwasanaethau gyda’n gilydd.
“Does gan wyth ymhob deg o bobol sy’n defnyddio bysiau ddim dewis arall o ran teithio, nhw sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael eu hynysu.
“Felly mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau’n eu cyrraedd drwy adeiladu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o’u cwmpas nhw.
“Mae angen i ni ddemocrateiddio ein bysiau eto, drwy ailreoleiddio ein bysiau a rhoi rheolaeth i bobol leol a chynghorau lleol benderfynu ble a phryd mae bysiau’n mynd.
“Fe wnaeth dadreoleiddio ddigwydd dan Margaret Thatcher, mae’n rhaid i ni newid y system.
“Bellach, mae gennym ni’r pwerau cyfreithiol yng Nghymru i gymryd rheolaeth yn ôl, mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r pwerau hynny.”
“Lleddfu problemau”
“Credaf yn gryf fod trafnidiaeth gyhoeddus dda yn hanfodol ar gyfer lleddfu problemau ein mannau poblogaidd, twristaidd, yr hotspots, yn enwedig yn ein parciau cenedlaethol fel Bannau Brycheiniog ac Eryri,” meddai Huw Irranca-Davies wedyn.
“Rhaid i ni gael gwasanaethau bws rheolaidd a dibynadwy a thocynnau hop-on hop-off fforddiadwy i’w gwneud hi’n haws i bobol fynd allan o’u ceir ac archwilio ein cefn gwlad hardd ar drafnidiaeth gyhoeddus a cherdded hefyd.
“Mae’n bosibl ei wneud e.
“Dw i’n credu bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, a chyfiawnder hinsawdd hefyd. Mae hi hefyd o ddifrif ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol.”
“Newid meddylfryd”
“Mae symud buddsoddiad o adeiladu ffyrdd at fysiau ac i deithio gweithredol, beicio a cherdded, yn arwydd clir gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw’n deall yr argyfwng hinsawdd, ac yn barod i weithredu hefyd,” meddai Huw Irranca-Davies, wrth gyfeirio at gyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n oedi cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd – cam sydd wedi cael ei ganmol gan Greta Thunberg.
“Mae’n bwysig iawn, a dw i’n credu bod Llywodraeth Cymru nawr yn deall hwn.
“Dw i’n credu ei bod yn bwysig iawn cael cefnogaeth drawsbleidiol i rywbeth mor bwysig â hyn.
“Mae’n rhaid i ni symud yr agenda nawr, ac i’w wneud e, mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i newid meddylfryd Llywodraeth Cymru a newid meddylfryd y cyhoedd yng Nghymru hefyd.
“Mae’n rhaid i ni ddal hyn gyda’i gilydd nawr er mwyn cael y newid oherwydd rydyn ni’n siarad am newid cyfreithiol yn ogystal â gwneud rhai penderfyniadau heriol yn lleol.”