Mae Pawb Dan Un Faner, neu AUOB Cymru, wedi cyhoeddi eu hymateb i awgrym Aelod Seneddol Ceidwadol y dylid cael portread o’r Frenhines ym mhob cartref ym Mhrydain.

Cyhoeddodd Joy Morrissey, Aelod Seneddol Beaconsfield, y fenter “wladgarol” gyda Chymdeithas Frenhiniaeth Prydain – ac fel mae’n digwydd, mae hi’n noddi’r Gymdeithas hon.

Creda Joy Morrissey fod angen i bobol “ailddarganfod ein balchder o fod yn Brydeinwyr” ac y byddai llun o’r Frenhines yn llwyddo i sbarduno hynny.

Ond mae AUOB Cymru wedi aildrydar yr awgrym, gan amnewid llun Brenhines Loegr am lun Charlotte Church, gan ddweud “hapus i gefnogi hwn”.

Joy Morrissey

Roedd Joy Morrissey yn gynghorydd Ceidwadol etholedig ar Gyngor Ealing, lle cynrychiolodd ward Hanger Hill, tan fis Ebrill 2020.

Roedd hi’n ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Llundain 2016, ond ni chafodd ei hethol.

Brwydrodd hi am sedd Ealing Central ac Acton yn aflwyddiannus yn etholiad cyffredinol 2017.

Yn 2018, ceisiodd yn aflwyddiannus am enwebiad i fod yn ymgeisydd Maer Llundain y Ceidwadwyr ar gyfer etholiad Maer Llundain 2021, er iddi gyrraedd y tri ymgeisydd olaf.

“Rwy’n falch o lansio ymgyrch genedlaethol gyda Chymdeithas Frenhiniaeth Prydain i roi darlun o’i Mawrhydi ym mhob cartref, cwmni a sefydliad a hoffai gael un,” meddai mewn datganiad.

“Mae’n bryd ailddarganfod ein balchder o fod yn Brydeinwyr!”

Ychwanegodd ar Twitter: “Rwy’n credu bod hon yn ymgyrch wych, wladgarol ac yn un i uno ein gwlad.

“Byddaf yn ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn iddo roi ystyriaeth ofalus iddi a chwilio am gyfleoedd i drafod ymhellach yn y Senedd.”