Mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £180,000 ar ôl pledio’n euog i achosi digwyddiad llygredd ar hyd afon Clywedog yn 2018.
Plediodd y gweithredwr dŵr yfed a dŵr gwastraff yn euog i gyhuddiad yn ymwneud ag achosion o dorri deddfwriaeth amgylcheddol yn Llys Llandudno wedi’r digwyddiad a effeithiodd ar 9 cilomedr o’r afon ger Marchwiel ger Wrecsam.
Clywodd y llys fod Dŵr Cymru wedi rhyddhau carthion amrwd yn anghyfreithlon o waith gwastraff Five Fords, gan arwain at ladd y nifer fwyaf o bysgod ar record yn y Gogledd.
Cafodd dros 3,000 o bysgod eu lladd, gan effeithio ar rywogaethau megis brithyll, pennau lletwad, llysywod, eogiaid, crethyll, a draenogiad dŵr croyw.
Derbyniodd Dŵr Cymru ddirwy o £180,000, yn ogystal â chael gorchymyn i dalu £25,871.60 mewn costau cysylltiedig.
“Dinistrio ecosystemau”
“Mae gofalu am afonydd a chyrsiau dŵr Cymru yn rhan enfawr o’r gwaith a wnawn, yn ogystal â gofalu am y cynefinoedd sy’n dibynnu arnynt,” meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
“Gall digwyddiadau llygredd fel hyn ddinistrio ecosystemau a gobeithiwn y bydd y canlyniad hwn yn cyfleu neges gadarnhaol na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn goddef y rhai sy’n llygru afonydd Cymru, yn niweidio’r amgylchedd, ac yn peryglu bywyd gwyllt lleol.
“Yn yr achos hwn, rhyddhaodd Dŵr Cymru garthffosiaeth amrwd yn anghyfreithlon o waith trin gwastraff Five Fords i afon Clywedog, a arweiniodd at ladd nifer sylweddol o bysgod ar hyd yr afon. Camau cyfreithiol oedd yr unig gam gweithredu [posib].
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru i adfer yr afon yn dilyn y digwyddiad hwn.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn cyfleu neges glir bod deddfwriaeth amgylcheddol i’w chymryd o ddifrif a bod niweidio’r amgylchedd, boed yn fwriadol, neu drwy esgeulustod, yn dod â chanlyniadau.”
“Agored a gonest”
“Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb i amddiffyn yr amgylchedd sy’n ein gofal o ddifrif, ond ar yr achlysur hwn rydyn ni’n cydnabod ein bod ni wedi methu ac am hynny mae’n ddrwg iawn gennym ni,” meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru.
“Digwyddodd yr achos yn ein gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yn Five Fords wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw brys a arweiniodd, yn ddamweiniol, at ddŵr gwastraff a oedd wedi hanner ei drin yn gorlifo o un o’r tanciau i afon Clywedog am tuag awr.
“Yn anffodus, doedden ni ddim yn ymwybodol fod hyn wedi digwydd wrth i ni ymgymryd â’r gwaith, ond cyn gynted ag y gwnaethon ni sylweddoli fe wnaethon ni gymryd camau i drio lleihau ei effaith ar unwaith.
“Fe wnaethon ni drafod y mater gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, a thrafod unrhyw gamau ychwanegol y gallwn fod yn eu cymryd i leihau’r effaith ar y darn o’r afon gafodd ei heffeithio.
“Rydyn ni’n cydnabod yr effaith tymor byr gafodd y digwyddiad ar yr afon – adlewyrchir hyn wrth i ni bledio’n euog ar y cyfle cyntaf.
“Rydyn ni’n croesawu’r gydnabyddiaeth ein bod ni’n gwmni cyfrifol, ac roedden ni’n hollol agored a gonest yn ystod yr ymchwiliad, a hoffwn sicrhau ein cwsmeriaid ein bod ni wedi cyflwyno prosesau cryf yn y gweithfeydd er mwyn lleihau’r risg fod yr un peth yn digwydd yn y dyfodol.
“Hoffwn ymddiheuro eto am y digwydd a’i effaith.”