Dylai Cyngor Gwynedd roi mwy o bwyslais ar ysgolion uwchradd Cymraeg, yn hytrach na rhai dwyieithog, meddai cadeirydd Pwyllgor Iaith y Cyngor.

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf hyd at 2032, gan osod saith nod, ynghyd â tharged yr awdurdod fod mwy o blant yn cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg.

Yn ogystal, mae’r drafft yn bwriadu cyflwyno mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau mewn ysgolion.

Mae swyddogion wedi gosod targed i gynyddu nifer yr athrawon sy’n dysgu Cymraeg fel pwnc, yn ogystal ag eraill sy’n dysgu trwy’r Gymraeg.

Ond mae hyn wedi esgor ar ddadl ynghylch categoreiddio ysgolion dwyieithog y sir – gyda galw i rai ohonyn nhw, o leiaf, fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol, yn hytrach na sefydliadau dwyieithog.

Y sefyllfa

Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2018/19 yn dangos fod 78.1% o ddisgyblion yng Ngwynedd wedi cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg (iaith gyntaf) ac o leiaf dau gymhwyster arall drwy’r Gymraeg, ac mae swyddogion am weld cynnydd yn yr ystadegau dros y degawd nesaf.

Roedd 64.2% o ddisgyblion wedi eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg (iaith gyntaf), ac o leiaf pum cymhwyster lefel 1 neu 2 arall drwy’r Gymraeg.

Mae StatsCymru yn diffinio bron pob un o ysgolion uwchradd Gwynedd fel rhai ‘dwyieithog’ yn swyddogol, gyda 80% o bynciau heblaw ieithoedd yn cael eu dysgu’n Gymraeg.

Yn y cyfamser, mae ysgolion uwchradd Cymraeg yn cael eu diffinio fel rhai lle mae pob pwnc oni bai am Saesneg yn cael eu dysgu drwy Gymraeg i bob disgybl.

Ond yn ystod y ddadl dydd Mawrth [22 Mehefin], wrth i aelodau’r Pwyllgor Iaith gymeradwyo’r adroddiad ar yr amod fod eu sylwadau’n cael eu hystyried, fe wnaeth Cadeirydd newydd y Pwyllgor ddadlau fod rhaid i dargedau’r awdurdod fod yn uchelgeisiol ar ôl disgrifio dau bwnc fel “targed isel iawn”.

Cuddio’r Gymraeg

Wrth siarad am y pryder fod y Gymraeg yn “cael ei chuddio tu ôl i ddwyieithrwydd” dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd “ei bod hi’n bryd i ni gael ysgolion sy’n benodol Gymraeg yng Ngwynedd, dydyn ni ddim yn mynd i ddal ein tir o ran yr iaith oni bai ein bod ni’n gwneud hynny.

“Petai hynny’n digwydd, byddai unrhyw un sy’n symud mewn i’r ardal o’r tu allan yn gwybod lle maen nhw’n sefyll.

“Dw i’n cofio Gwenda Roberts, cyn-athrawes Ddrama yn Ysgol Eifionydd, roedd hi’n cynnig cwrs TGAU drwy’r Gymraeg, ac roedd pobol yn ei dderbyn ac roedden nhw’n llwyddo.

“Ond y munud roedden nhw’n mynd i Goleg Meirion Dwyfor, roedden nhw’n cael cynnig ac roedden nhw’n ei wneud o’n Saesneg.

“Felly os yw’r penderfyniad yn cael ei wneud fod pob pwnc yn cael ei gynnig yn Gymraeg yn unig, yna fydd pobol yn gwybod lle maen nhw’n sefyll, ac yn fanno mae’r ateb.

“Fy ngobaith i yw cynyddu’r lleiafswm hwnnw o ddau bwnc [TGAU] i o leiaf saith er mwyn inni allu cyflawni unrhyw beth… ac ysgolion penodol Cymraeg.”

“Rhaid i bobol ddewis”

“Mae’r dwyieithrwydd yma’n rhywbeth sydd wedi fy mhoeni ers peth amser, i fi mae’n rhaid i bobol wneud penderfyniad ac mae’n rhaid i ni fod yn bendant wrth ddewis Cymraeg,” ychwanegodd y Cynghorydd Elfed Williams.

“Mae o’r un fath â phobol yn dweud eu bod nhw’n Gymraeg a Phrydeinig, does yna ddim ffasiwn beth, rhaid i bobol ddewis yn lle eistedd ar y ffens.”

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mai bwriad polisi iaith addysg Gwynedd “yw datblygu gallu pob disgybl i ddod yn fedrus yn ddwyieithog erbyn eu bod nhw’n 11 oed”.

“Mae’r flaenoriaeth yn cael ei roi i’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen er mwyn gosod seiliau cryf i’r iaith, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau Cymraeg a Saesneg disgyblion pan maen nhw’n 7 oed (Cyfnod Allweddol 2) a hŷn.”