Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth AoS, wedi dweud y dylid defnyddio mesurau ychwanegol i frechlynnau yn sgil y cynnydd mewn achosion Delta.
Cyn cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru heddiw (25 Mehefin), mae Rhun ap Iorwerth wedi galw am “arweinyddiaeth a chefnogaeth” i fusnesau lletygarwch hefyd.
Gan fod amrywiolyn Delta yn trosglwyddo’n haws nag amrywiolion eraill o Covid-19, mae e hefyd yn galw am broses Brofi, Olrhain a Diogelu gref.
“Cyfuniad o fesurau”
“Gyda’r cynnydd parhaus mewn achosion o amrywiolyn Delta, rhaid i ni beidio colli golwg ar bwysigrwydd cyfuniad o fesurau ychwanegol, ochr yn ochr â’r rhaglen frechu, i atal y lledaeniad,” meddai Rhun ap Iorwerth, Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru.
“Dylai hyn gynnwys proses Brofi ac Olrhain gref, sy’n cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru fel yr argymhellir gan Archwilio Cymru, a mesurau sy’n cael eu hargymell gan SAGE, fel pecynnau cefnogaeth gynhwysfawr er mwyn caniatáu i bobol hunanynysu’n ddiogel, a ‘chronfa cefnogi awyru’ ar gyfer busnesau a chartrefi.
“Mae’r diwydiant lletygarwch yn benodol angen cefnogaeth hefyd – mae llawer o bobol o fewn lletygarwch yn dal i deimlo’r wasgfa gan y bwlch anesboniadwy mewn cyllid ym mis Ebrill eleni, a materion gydag argaeledd staff.
“Bydd busnesau yng Nghymru’n edrych tuag at Lywodraeth Cymru er mwyn cynnig arweinyddiaeth a chefnogaeth ar adeg pan fydd gan nifer o bobol ofn gwirioneddol ar gyfer y dyfodol.”