Mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu rhagor o leoliadau gwyliau i’r rhestr werdd yn dilyn adolygiad tair wythnos.

Fe fydd y newidiadau i’r rhestrau yn dod i rym am 4yb ddydd Mawrth 30 Mehefin. Mae’n dilyn yr un penderfyniad gan wledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dal i gynghori pobl yn erbyn teithio dramor os nad yw’n hanfodol.

Ymhlith y gwledydd sydd wedi cael eu symud i’r rhestr werdd mae Anguilla, Antigua a Barbuda, Ynysoedd Baleares, Barbados, Bermuda, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Ynysoedd Cayman, Dominica, Grenada, Madeira, Malta, Montserrat, Pitcairn, Henderson, Ynysoedd Ducie ac Oeno, ac Ynysoedd Turks a Caicos.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno i ychwanegu Israel i’r rhestr werdd sy’n cael ei adolygu – mae’r rhestr werdd hon yn nodi gwledydd sydd â’r risg fwyaf o symud o wyrdd i oren fel bod teithwyr yn cael rhywfaint o rybudd y gallai eu lleoliad teithio gael ei symud i’r categori oren.Mae chwe gwlad – Gweriniaeth Dominica ​, Eritrea​, Haiti​, Mongolia​, Tunisia ​ac Uganda – yn cael eu rhoi ar y rhestr goch.

“Nid yw’r pandemig ar ben”

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond nid yw’r pandemig ar ben, a diogelu iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Rydym yn cynghori’n gryf o hyd na ddylai pobl deithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol, a hynny oherwydd y  risg o ddal y coronafeirws, yn enwedig amrywiolion newydd sy’n peri pryder.

“Rydyn ni’n ymwybodol o gynigion Llywodraeth y DU i lacio’r cyfyngiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi cael dau frechlyn yn dychwelyd o wledydd ar y rhestr ambr i Loegr. Byddwn yn pwyso a mesur yr holl dystiolaeth sydd ar gael ac yn gwneud penderfyniad ar gyfer Cymru.”

Ychwanegodd: “Mae ein neges yn glir – dyma’r flwyddyn i gael gwyliau gartref. Rydym yn galw ar bobl i deithio tramor dim ond os oes ganddynt resymau hanfodol. Mae pob un ohonom wedi aberthu cymaint er mwyn rheoli’r pandemig yng Nghymru, ac nid ydym am weld y feirws yn dod eto – neu amrywiolion newydd yn dod i’r wlad – o ganlyniad i bobl yn teithio dramor.”