Fe fydd y cyn-blismon a lofruddiodd George Floyd yn cael ei ddedfrydu heddiw (Dydd Gwener, 25 Mehefin), ddeufis ar ôl yr achos llys a gafodd ei wylio gan filiynau ar draws y byd.

Mae Derek Chauvin yn wynebu hyd at 40 mlynedd dan glo ar ôl iddo benlinio ar wddf  y dyn croenddu George Floyd am naw munud a 29 eiliad. Fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a dynladdiad.

Ond y disgwyl yw y gallai dreulio rhan o’i ddedfryd yn y carchar a’r gweddill dan oruchwyliaeth ar ôl ei ryddhau.

Roedd marwolaeth George Floyd yn Minneapolis ar 25 Mai 2020 wedi arwain at lu o brotestiadau ar draws yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol.

Fe fydd Derek Chauvin, a oedd wedi dewis peidio rhoi tystiolaeth yn yr achos llys, yn cael cyfle i siarad cyn cael ei ddedfrydu. Mae disgwyl i ddatganiadau gan deulu George Floyd hefyd gael eu darllen yn y llys cyn y ddedfryd.