Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal ymchwiliad wedi ymosodiad seiber sydd wedi effeithio ar bob un o’r pum ysgol uwchradd yn y sir.

Dywed y cyngor bod systemau technoleg gwybodaeth – yn cynnwys cyfrifon e-bost – wedi eu hatal dros dro er mwyn gallu rheoli’r digwyddiad sydd wedi effeithio ar Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch; Ysgol Uwchradd Bodedern; Ysgol Gyfun Llangefni; Ysgol David Hughes, Porthaethwy, ac Ysgol Uwchradd Caergybi.

Ond mae’n bosib bod data personol sy’n cael ei chadw ar y systemau hyn wedi ei chyfaddawdu yn ystod yr ymosodiad seiber.

‘Aflonyddwch’

Dywedodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn: “Fe wnaethom ddarganfod yr ymosodiad seiber Ddydd Mercher, Mehefin 23 ac yna symud yn gyflym i ddod â thîm o ymgynghorwyr technoleg seiber arbenigol i mewn er mwyn ymchwilio i’r mater. Bydd y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol hefyd yn ein cefnogi er mwyn gallu datrys y mater.”

“Mae’n debyg y bydd ychydig o aflonyddwch i’r ysgolion dros yr wythnosau nesaf gan efallai y bydd angen i rai systemau gael eu hadfer ac y bydd eraill yn parhau i fod oddi ar lein am gyfnod.”

Ychwanegodd: “Rydym yn cydweithio’n agos â phartneriaid eraill er mwyn cefnogi ein hysgolion uwchradd. Er na allwn gadarnhau ar hyn o bryd a oes mynediad diawdurdod at ddata wedi digwydd, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi eu hysbysu am y digwyddiad.”